RHAN 2Ceisiadau

Ceisiadau am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl4.

(1)

Rhaid i gais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl—

(a)

cael ei wneud i'r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen ar ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith);

(b)

cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;

(c)

cael ei gyflwyno ynghyd â'r cyfryw blaniau a lluniadau sy'n angenrheidiol er mwyn delio â'r materion a gadwyd yn ôl yn y caniatâd cynllunio amlinellol;

(ch)

ac eithrio pan wneir y cais drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, cael ei gyflwyno ynghyd â 3 chopi o'r ffurflen; a

(d)

ac eithrio pan gyflwynir hwy drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, cael ei gyflwyno ynghyd â 3 chopi o unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth a gyflwynir gyda'r cais.

(2)

Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae'n ofynnol eu darparu o dan baragraff (1)(c) fod wedi eu lluniadu wrth raddfa ddynodedig, ac yn achos planiau, rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.

(3)

Pan wneir cais drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.