RHAN 8Cyffredinol

Defnyddio cyfathrebiadau electronig32.

(1)

Os gwneir cais drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, ystyrir bod y ceisydd wedi cytuno—

(a)

i'r awdurdod ddefnyddio cyfathrebiadau o'r fath at ddibenion y cais;

(b)

mai cyfeiriad y ceisydd at y dibenion hynny yw'r cyfeiriad sy'n gynwysedig yn y cais neu sydd, rywfodd arall, yn gysylltiedig yn rhesymegol â'r cais; ac

(c)

y bydd cytundeb tybiedig y ceisydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes bo'r ceisydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig ei fod yn tynnu'n ôl y cydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig o dan baragraff (2).

(2)

Os nad yw person bellach yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Gorchymyn hwn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad, mewn ysgrifen, sydd—

(a)

yn tynnu'n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol ohono at y diben hwnnw; neu

(b)

yn dirymu unrhyw gytundeb yr ymunwyd ynddo, neu y tybiwyd yr ymunwyd ynddo, gyda Gweinidogion Cymru neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,

a bydd tynnu'n ôl neu ddirymu felly yn derfynol, ac yn cael effaith ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad, ond nid yn llai na saith diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.