Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 1A wedi ei fewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 4(1) (ynghyd ag ergl. 15(1))
2F.—(1) Pan fu’n ofynnol bod ceisydd yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn unol â darpariaethau adran 61Z o Ddeddf 1990 ac erthyglau 2C a 2D, ac yntau wedyn yn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio, rhaid cyflwyno’r cais ynghyd ag adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio, sy’n rhoi manylion o’r canlynol—
(a)sut y cydymffurfiodd y ceisydd ag adran 61Z o Ddeddf 1990;
(b)unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad a gafwyd gan bersonau yr ymgynghorwyd â hwy o dan adran 61Z(3) neu (4) o Ddeddf 1990; ac
(c)yr ystyriaeth a roddwyd i’r ymatebion hynny.
(2) Rhaid i’r adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio gynnwys —
(a)copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2C(1)(a)(i);
(b)datganiad i’r perwyl bod yr hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2C(1)(a)(i) wedi ei arddangos yn unol â gofynion yr erthygl honno;
(c)rhestr o gyfeiriadau’r personau y rhoddwyd hysbysiad o’r cais arfaethedig iddynt yn unol ag erthygl 2C(1)(a)(ii) a chopi o’r hysbysiad a roddwyd i bersonau o’r fath;
(ch)copïau o’r holl hysbysiadau a roddwyd i ymgyngoreion cymunedol ac arbenigol yn unol ag erthyglau 2D(2) a 2D(3);
(d)crynodeb o’r holl faterion a godwyd gan unrhyw berson a hysbyswyd ynghylch y cais arfaethedig yn unol ag adran 61Z(3) o Ddeddf 1990 ac erthyglau 2C a 2D(2), gan gynnwys cadarnhad a aethpwyd i’r afael â’r materion a godwyd ai peidio, ac os felly, sut; ac
(dd)copïau o’r holl ymatebion a gafwyd gan ymgyngoreion arbenigol, ynghyd ag eglurhad o’r ystyriaeth a roddwyd i bob ymateb.]