F1RHAN 1AYmgynghoriad cyn-ymgeisio
Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio: ymgyngoreion arbenigol2E.
(1)
Rhaid i ymgynghorai arbenigol, yr ymgynghorwyd ag ef yn unol â darpariaethau adran 61Z(4) o Ddeddf 1990, ddarparu ymateb o sylwedd o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2D(3) neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng yr ymgynghorai arbenigol a’r ceisydd.
(2)
At ddibenion yr erthygl hon, ymateb o sylwedd yw ymateb sydd yn—
(a)
datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol unrhyw sylw i’w wneud;
(b)
datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio’r ceisydd at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai arbenigol ar destun yr ymgynghoriad;
(c)
rhoi gwybod i’r ceisydd am unrhyw bryderon a ganfuwyd ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig a sut y gellir mynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu
(ch)
rhoi gwybod i’r ceisydd fod gan yr ymgynghorai arbenigol bryderon ac y byddai’n gwrthwynebu cais am ganiatâd cynllunio a wneid ar yr un telerau neu delerau o’r un sylwedd, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiadau hynny.