Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 1A wedi ei fewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 4(1) (ynghyd ag ergl. 15(1))
2D.—(1) Mae’r personau neu ddisgrifiadau o bersonau canlynol wedi eu pennu at ddibenion adran 61Z(4) o Ddeddf 1990—
(a)unrhyw ymgynghorai cymunedol;
(b)unrhyw ymgynghorai arbenigol.
(2) Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai cymunedol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai cymunedol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig.
(3) Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai arbenigol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai arbenigol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig ac amgáu pob un o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn erthygl 2C(1)(b) neu ddarparu dolen i wefan lle y gellir gweld y dogfennau hynny.
(4) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraffau (2) a (3) ac wedi rhoi cyfle i’r ymgynghorai arbenigol ymateb yn unol ag erthygl 2E(1) cyn cyflwyno cais.
(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw—
(a)mewn perthynas ag ymgynghorai cymunedol neu berson perthnasol, hysbysiad yn y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 1B; a
(b)mewn perthynas ag ymgynghorai arbenigol, hysbysiad yn y ffurf briodol a bennir yn Atodlen 1C,
neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.]