Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 1A wedi ei fewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 4(1) (ynghyd ag ergl. 15(1))
2C.—(1) Rhaid i’r ceisydd(1) hysbysebu’r cais arfaethedig drwy—
(a)rhoi hysbysiad gofynnol—
(i)drwy ei arddangos ar y safle mewn o leiaf un man, ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef, am o leiaf 28 diwrnod; a
(ii)mewn ysgrifen i unrhyw berchennog neu feddiannydd unrhyw dir cyffiniol y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a
(b)rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael i’w harchwilio mewn lleoliad yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig, am gyfnod o ddim llai nag 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda phob diwrnod y rhoddir pob un o’r hysbysiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu erthygl 2D(2)—
(i)unrhyw ddogfennau a manylion neu dystiolaeth a fyddai’n ofynnol er mwyn i gais dilynol, yn yr un ffurf neu’r un ffurf o ran sylwedd, fod yn gais dilys, ac eithrio’r tystysgrifau mewn perthynas â hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunio sy’n ofynnol gan erthygl 11;
(ii)plan sy’n galluogi adnabod y tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;
(iii)unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol er mwyn disgrifio’r datblygiad sy’n destun y cais arfaethedig;
(iv)mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad; a
(v)yn ddarostyngedig i erthygl 8(2), y manylion neu’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990(2).
(2) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae paragraff (1)(b)(ii) neu (iii) yn gwneud yn ofynnol eu darparu fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir gan y ceisydd, ac yn achos planiau rhaid dangos cyfeiriad y gogledd.
(3) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1) cyn cyflwyno cais.
(4) Os yw’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(i), heb unrhyw fwriad gan y ceisydd na bai arno, yn cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 28 diwrnod wedi dod i ben, trinnir y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw’r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.
(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1B neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.]
Ar gyfer y diffiniad o “mineral-working deposit”, gweler adran 336 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).
Diwygiwyd adran 73 gan adrannau 42(2), 51(3) a 120 o Ddeddf 2004, ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adran 73A gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 16 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.