F1RHAN 1AYmgynghoriad cyn-ymgeisio

Cyhoeddusrwydd cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio2C.

(1)

Rhaid i’r ceisydd9 hysbysebu’r cais arfaethedig drwy—

(a)

rhoi hysbysiad gofynnol—

(i)

drwy ei arddangos ar y safle mewn o leiaf un man, ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef, am o leiaf 28 diwrnod; a

(ii)

mewn ysgrifen i unrhyw berchennog neu feddiannydd unrhyw dir cyffiniol y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a

(b)

rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael i’w harchwilio mewn lleoliad yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig, am gyfnod o ddim llai nag 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda phob diwrnod y rhoddir pob un o’r hysbysiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu erthygl 2D(2)—

(i)

unrhyw ddogfennau a manylion neu dystiolaeth a fyddai’n ofynnol er mwyn i gais dilynol, yn yr un ffurf neu’r un ffurf o ran sylwedd, fod yn gais dilys, ac eithrio’r tystysgrifau mewn perthynas â hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunio sy’n ofynnol gan erthygl 11;

(ii)

plan sy’n galluogi adnabod y tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;

(iii)

unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol er mwyn disgrifio’r datblygiad sy’n destun y cais arfaethedig;

(iv)

mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad; a

(v)

yn ddarostyngedig i erthygl 8(2), y manylion neu’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 62(3) o Ddeddf 199010.

(2)

Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae paragraff (1)(b)(ii) neu (iii) yn gwneud yn ofynnol eu darparu fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir gan y ceisydd, ac yn achos planiau rhaid dangos cyfeiriad y gogledd.

(3)

Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1) cyn cyflwyno cais.

(4)

Os yw’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(i), heb unrhyw fwriad gan y ceisydd na bai arno, yn cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 28 diwrnod wedi dod i ben, trinnir y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw’r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.

(5)

Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1B neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.