2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw adeiledd neu adeiladwaith ac unrhyw ran o adeilad fel y'i diffinnir yn yr erthygl hon, ond nid yw'n cynnwys unrhyw beiriannau neu beirianwaith nac unrhyw adeiledd o natur peiriant neu beirianwaith;
ystyr “arwynebedd llawr (“floor space”) yw cyfanswm arwynebedd y lloriau mewn adeilad neu adeiladau;
[F1“ystyr “cais adran 73” (“section 73 application”) yw cais am ganiatâd cynllunio o dan adran 73 o Ddeddf 1990 ar gyfer datblygu tir heb gydymffurfio ag amodau y rhoddwyd caniatâd blaenorol yn ddarostyngedig iddynt]
mae i “cais AEA”, “datblygiad AEA”, “gwybodaeth amgylcheddol” a “datganiad amgylcheddol” yr un ystyron a roddir yn eu trefn i “EIA application”, “EIA development”, “environmental information” ac “environmental statement” yn rheoliad 2(1) o [F2Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016] (1);
[F3ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais am—
caniatâd cynllunio ar gyfer estyn, gwella neu addasu tŷ annedd mewn ffordd arall, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu
newid defnydd er mwyn ehangu cwrtil tŷ annedd,
at unrhyw ddiben sy’n ategol i fwynhau’r tŷ annedd ond nad yw’n cynnwys—
unrhyw gais arall am newid defnydd,
cais i godi tŷ annedd, neu
cais i newid nifer yr anheddau mewn adeilad;]
[F4ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer ehangu, gwella neu addasu adeilad presennol o ddim mwy na 250 metr sgwâr gros o arwynebedd llawr allanol ar lefel y llawr daear mewn ffordd arall, neu ran o’r adeilad hwnnw, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at unrhyw un o’r dibenion a nodir yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn sydd yn gais am—
newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir un ai ym mharagraff 2 neu ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno;
newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno; neu
cyflawni gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop;]
ystyr “caniatâd cynllunio amlinellol” (“outline planning permission”) yw caniatâd cynllunio ar gyfer codi adeilad, a roddir yn ddarostyngedig i amod sy'n ei gwneud yn ofynnol cael cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio lleol yn ddiweddarach mewn perthynas ag un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl;
mae “codi” (“erection”), mewn perthynas ag adeiladau fel y'u diffinnir yn yr erthygl hon, yn cynnwys estyn, newid neu ailgodi;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” gan adran 15(1) o Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000 (dehongli cyffredinol)(2);
ystyr “datblygiad gwastraff” (“waste development”) yw (a) unrhyw ddatblygiad gweithredol a fwriadwyd i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o drin, storio, prosesu neu waredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff, neu (b) newid defnydd perthnasol i drin, storio, prosesu neu waredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff;
ystyr “datblygiad mawr” (“major development”) yw datblygiad(3) sy'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
ennill a gweithio mwynau neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion o weithfeydd mwynau(4);
datblygiad gwastraff;
darparu tai annedd—
pan fo nifer y tai annedd sydd i'w darparu yn 10 neu ragor; neu
pan fwriedir cyflawni'r datblygiad ar safle sydd â'i arwynebedd yn 0.5 hectar neu'n fwy ac nad yw'n hysbys a yw'r datblygiad yn dod o fewn is-baragraff (c)(i);
darparu adeilad neu adeiladau lle mae'r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor; neu
datblygiad a gyflawnir ar safle sydd â'i arwynebedd yn 1 hectar neu'n fwy;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
[F1“ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015](2)
ystyr “drwy arddangos ar y safle” (“by site display”) yw drwy osod yr hysbysiad ynghlwm yn gadarn wrth wrthrych a leolir ac a arddangosir mewn modd sy'n caniatáu i aelodau'r cyhoedd weld yr hysbysiad a'i ddarllen yn hawdd;
ystyr “fflat” (“flat”) yw mangre ar wahân a hunangynhwysol, a adeiladwyd neu a addaswyd i'w defnyddio fel annedd, ac sy'n rhan o adeilad ac wedi ei gwahanu'n llorweddol oddi wrth ran arall o'r adeilad hwnnw;
ystyr “graddfa” (“scale”) yw uchder, lled a hyd pob adeilad arfaethedig o fewn y datblygiad, mewn perthynas â'i amgylchoedd;
ystyr “gweithrediadau mwyngloddio” (“mining operations”) yw ennill a gweithio mwynau mewn, ar, neu o dan y tir, drwy weithio ar yr wyneb neu'n danddaearol;
ystyr “llunwedd” (“layout”) yw'r ffordd y darperir, y lleolir ac y gogwyddir adeiladau, llwybrau a mannau agored o fewn y datblygiad, mewn perthynas â'i gilydd ac mewn perthynas ag adeiladau a mannau agored y tu allan i'r datblygiad;
ystyr “materion a gedwir yn ôl” a “materion a gadwyd yn ôl” (“reserved matters”) mewn perthynas â chaniatâd cynllunio amlinellol neu gais am ganiatâd o'r fath, yw unrhyw rai o'r materion canlynol, na roddwyd manylion ohonynt yn y cais—
mynediad;
ymddangosiad;
tirlunio;
llunwedd; a
graddfa, o fewn y terfynau uchaf ac isaf o ran uchder, lled a hyd pob adeilad a ddatgenir yn y cais am ganiatâd cynllunio yn unol ag erthygl 3(4);
ystyr “mynediad” (“access”), mewn perthynas â materion a gadwyd yn ôl, yw hygyrchedd wrth fynd i mewn ac oddi mewn i safle, ar gyfer cerbydau, beiciau a cherddwyr, o ran lleoli a thrin y llwybrau mynediad a chylchredeg a'r modd y maent yn cydasio â'r rhwydwaith mynediad o amgylch; ac ystyr “safle” (“site”) yw'r safle neu'r rhan o'r safle y rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol mewn perthynas ag ef neu hi, neu, yn ôl fel y digwydd, y gwnaed cais am ganiatâd o'r fath mewn perthynas ag ef neu hi;
ystyr “tirlunio” (“landscaping”), mewn perthynas â safle, neu unrhyw ran o safle, y rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar ei gyfer neu ar ei chyfer, neu, yn ôl fel y digwydd, y gwnaed cais am ganiatâd o'r fath, yw trin y tir (ac eithrio adeiladau) at y diben o wella neu ddiogelu amwynderau'r safle a'r ardal y'i lleolir ynddi, ac y mae'n cynnwys—
sgrinio drwy ddefnyddio ffensys, waliau neu ddulliau eraill;
plannu coed, gwrychoedd, llwyni neu laswellt;
ffurfio cloddiau, terasau neu gloddweithiau cyffelyb;
llunweddu neu ddarparu gerddi, cyrtiau, sgwariau, arweddion dŵr, cerfluniau neu gelfyddyd gyhoeddus; a
darparu arweddion amwynder eraill;
nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad ag ynddo un neu ragor o fflatiau, nac ychwaith fflat oddi mewn i adeilad o'r fath; ac
[F1“ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti gynghorydd i awdurdod lleol]
ystyr “ymddangosiad” (“appearance”) yw'r agweddau ar adeilad neu le o fewn y datblygiad sy'n penderfynu'r argraff weledol a wneir gan yr adeilad neu'r lle, gan gynnwys ffurf adeiledig allanol y datblygiad, ei bensaernïaeth, y deunyddiau, yr addurniad, y goleuo, y lliw a'r gwead.
[F1“ystyr “ymgynghorai arbenigol” (“specialist consultee”), pan fo’r datblygiad y mae’r cais arfaethedig am ganiatâd cynllunio yn ymwneud ag ef yn dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, yw’r awdurdod, y person neu’r corff a grybwyllir mewn perthynas â’r categori hwnnw;]
[F1ystyr “ymgynghorai cymunedol” (“community consultee”) yw—
pob cynghorydd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy’n cynrychioli ward etholiadol y lleolir ynddi dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a
pob cyngor cymuned y lleolir yn ei ardal dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;]
(2) Yn y Gorchymyn hwn ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig neu storio electronig at unrhyw un o ddibenion y Gorchymyn hwn y gellir ei gyflawni'n electronig—
(a)mae'r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddiben cyfathrebiadau neu storio o'r fath ac eithrio, pan fo'r Gorchymyn hwn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i ddarparu enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, na chyflawnir y rhwymedigaeth oni fydd y person y'i gosodir arno yn darparu cyfeiriad post; a
(b) mae cyfeiriadau at ddogfennau, mapiau, planiau, lluniadau, tystysgrifau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o'r cyfryw bethau, yn cynnwys cyfeiriadau at y cyfryw ddogfennau neu gopïau ohonynt mewn ffurf electronig.
(3) Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo person yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y dibenion canlynol—
(a)cyflawni unrhyw ofyniad yn y Gorchymyn hwn i roi neu anfon unrhyw gais, hysbysiad neu ddogfen arall i, neu at, unrhyw berson arall; neu
(b)cyflwyno unrhyw gais, tystysgrif neu ddogfen arall, y cyfeirir atynt yn erthygl 22(3), i awdurdod cynllunio lleol,
ac yn y paragraffau hynny, ystyr “y derbynnydd” (“the recipient”) yw'r person a grybwyllir yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwn neu'r awdurdod cynllunio lleol, yn ôl fel y digwydd.
(4) Nid ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni, neu (yn ôl fel y digwydd) bod y cais wedi ei gyflwyno neu ddogfen arall wedi ei chyflwyno onid yw'r ddogfen a drawsyrrir gan y cyfathrebiad electronig—
(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddi;
(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c)yn ddigon parhaol i'w defnyddio i gyfeirio ati yn ddiweddarach.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu ddogfen ar gael i'r derbynnydd i raddau dim llai nag y byddai pe bai wedi ei rhoi neu'i hanfon ar ffurf dogfen brintiedig.
(6) Os yw'r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi cael y cyfathrebiad ar y diwrnod gwaith dilynol; ac at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.
(7) Mae gofyniad, yn y Gorchymyn hwn, bod unrhyw gais, hysbysiad neu ddogfen arall mewn ysgrifen wedi ei fodloni os yw'r ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4), a rhaid dehongli “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras yn unol â hynny.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn ergl. 2(1) wedi eu mewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 3
F2Geiriau yn ergl. 2(1) wedi eu hamnewid (1.3.2016) gan Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/58), rhl. 1(2), Atod. 9 para. 8(2) (ynghyd â rhl. 59)
F3Geiriau yn ergl. 2(1) wedi eu mewnosod (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 3(a) (ynghyd ag ergl. 12)
F4Geiriau yn ergl. 2(1) wedi eu mewnosod (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 3(b) (ynghyd ag ergl. 12)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 2 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
O.S. 1999/293, a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/3099; mae offerynnau eraill sy'n diwygio ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
2000 p.7; diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 i'r Ddeddf honno.
Ar gyfer y diffiniad o “development”, gweler adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8)
Ar gyfer y diffiniad o “mineral-working deposit”, gweler adran 336 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).