RHAN 1Rhagarweiniol
Dehongli2.
(1)
Yn y Gorchymyn hwn—
mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw adeiledd neu adeiladwaith ac unrhyw ran o adeilad fel y'i diffinnir yn yr erthygl hon, ond nid yw'n cynnwys unrhyw beiriannau neu beirianwaith nac unrhyw adeiledd o natur peiriant neu beirianwaith;
ystyr “arwynebedd llawr (“floor space”) yw cyfanswm arwynebedd y lloriau mewn adeilad neu adeiladau;
F1“ystyr “cais adran 73” (“section 73 application”) yw cais am ganiatâd cynllunio o dan adran 73 o Ddeddf 1990 ar gyfer datblygu tir heb gydymffurfio ag amodau y rhoddwyd caniatâd blaenorol yn ddarostyngedig iddynt
F3ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais am—
(a)
caniatâd cynllunio ar gyfer estyn, gwella neu addasu tŷ annedd mewn ffordd arall, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu
(b)
newid defnydd er mwyn ehangu cwrtil tŷ annedd,
at unrhyw ddiben sy’n ategol i fwynhau’r tŷ annedd ond nad yw’n cynnwys—
- (i)
unrhyw gais arall am newid defnydd,
- (ii)
cais i godi tŷ annedd, neu
- (iii)
cais i newid nifer yr anheddau mewn adeilad;
F4ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer ehangu, gwella neu addasu adeilad presennol o ddim mwy na 250 metr sgwâr gros o arwynebedd llawr allanol ar lefel y llawr daear mewn ffordd arall, neu ran o’r adeilad hwnnw, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at unrhyw un o’r dibenion a nodir yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn sydd yn gais am—
(a)
newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir un ai ym mharagraff 2 neu ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno;
(b)
newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno; neu
(c)
cyflawni gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop;
ystyr “caniatâd cynllunio amlinellol” (“outline planning permission”) yw caniatâd cynllunio ar gyfer codi adeilad, a roddir yn ddarostyngedig i amod sy'n ei gwneud yn ofynnol cael cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio lleol yn ddiweddarach mewn perthynas ag un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl;
mae “codi” (“erection”), mewn perthynas ag adeiladau fel y'u diffinnir yn yr erthygl hon, yn cynnwys estyn, newid neu ailgodi;
ystyr “datblygiad gwastraff” (“waste development”) yw (a) unrhyw ddatblygiad gweithredol a fwriadwyd i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o drin, storio, prosesu neu waredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff, neu (b) newid defnydd perthnasol i drin, storio, prosesu neu waredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff;
(a)
(b)
datblygiad gwastraff;
(c)
darparu tai annedd—
- (i)
pan fo nifer y tai annedd sydd i'w darparu yn 10 neu ragor; neu
- (ii)
pan fwriedir cyflawni'r datblygiad ar safle sydd â'i arwynebedd yn 0.5 hectar neu'n fwy ac nad yw'n hysbys a yw'r datblygiad yn dod o fewn is-baragraff (c)(i);
(d)
darparu adeilad neu adeiladau lle mae'r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor; neu
(e)
datblygiad a gyflawnir ar safle sydd â'i arwynebedd yn 1 hectar neu'n fwy;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
ystyr “drwy arddangos ar y safle” (“by site display”) yw drwy osod yr hysbysiad ynghlwm yn gadarn wrth wrthrych a leolir ac a arddangosir mewn modd sy'n caniatáu i aelodau'r cyhoedd weld yr hysbysiad a'i ddarllen yn hawdd;
ystyr “fflat” (“flat”) yw mangre ar wahân a hunangynhwysol, a adeiladwyd neu a addaswyd i'w defnyddio fel annedd, ac sy'n rhan o adeilad ac wedi ei gwahanu'n llorweddol oddi wrth ran arall o'r adeilad hwnnw;
ystyr “graddfa” (“scale”) yw uchder, lled a hyd pob adeilad arfaethedig o fewn y datblygiad, mewn perthynas â'i amgylchoedd;
ystyr “gweithrediadau mwyngloddio” (“mining operations”) yw ennill a gweithio mwynau mewn, ar, neu o dan y tir, drwy weithio ar yr wyneb neu'n danddaearol;
ystyr “llunwedd” (“layout”) yw'r ffordd y darperir, y lleolir ac y gogwyddir adeiladau, llwybrau a mannau agored o fewn y datblygiad, mewn perthynas â'i gilydd ac mewn perthynas ag adeiladau a mannau agored y tu allan i'r datblygiad;
ystyr “materion a gedwir yn ôl” a “materion a gadwyd yn ôl” (“reserved matters”) mewn perthynas â chaniatâd cynllunio amlinellol neu gais am ganiatâd o'r fath, yw unrhyw rai o'r materion canlynol, na roddwyd manylion ohonynt yn y cais—
(a)
mynediad;
(b)
ymddangosiad;
(c)
tirlunio;
(d)
llunwedd; a
(e)
graddfa, o fewn y terfynau uchaf ac isaf o ran uchder, lled a hyd pob adeilad a ddatgenir yn y cais am ganiatâd cynllunio yn unol ag erthygl 3(4);
ystyr “mynediad” (“access”), mewn perthynas â materion a gadwyd yn ôl, yw hygyrchedd wrth fynd i mewn ac oddi mewn i safle, ar gyfer cerbydau, beiciau a cherddwyr, o ran lleoli a thrin y llwybrau mynediad a chylchredeg a'r modd y maent yn cydasio â'r rhwydwaith mynediad o amgylch; ac ystyr “safle” (“site”) yw'r safle neu'r rhan o'r safle y rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol mewn perthynas ag ef neu hi, neu, yn ôl fel y digwydd, y gwnaed cais am ganiatâd o'r fath mewn perthynas ag ef neu hi;
ystyr “tirlunio” (“landscaping”), mewn perthynas â safle, neu unrhyw ran o safle, y rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar ei gyfer neu ar ei chyfer, neu, yn ôl fel y digwydd, y gwnaed cais am ganiatâd o'r fath, yw trin y tir (ac eithrio adeiladau) at y diben o wella neu ddiogelu amwynderau'r safle a'r ardal y'i lleolir ynddi, ac y mae'n cynnwys—
(a)
sgrinio drwy ddefnyddio ffensys, waliau neu ddulliau eraill;
(b)
plannu coed, gwrychoedd, llwyni neu laswellt;
(c)
ffurfio cloddiau, terasau neu gloddweithiau cyffelyb;
(d)
llunweddu neu ddarparu gerddi, cyrtiau, sgwariau, arweddion dŵr, cerfluniau neu gelfyddyd gyhoeddus; a
(e)
darparu arweddion amwynder eraill;
nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad ag ynddo un neu ragor o fflatiau, nac ychwaith fflat oddi mewn i adeilad o'r fath; ac
F1“ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti gynghorydd i awdurdod lleol
ystyr “ymddangosiad” (“appearance”) yw'r agweddau ar adeilad neu le o fewn y datblygiad sy'n penderfynu'r argraff weledol a wneir gan yr adeilad neu'r lle, gan gynnwys ffurf adeiledig allanol y datblygiad, ei bensaernïaeth, y deunyddiau, yr addurniad, y goleuo, y lliw a'r gwead.
F1“ystyr “ymgynghorai arbenigol” (“specialist consultee”), pan fo’r datblygiad y mae’r cais arfaethedig am ganiatâd cynllunio yn ymwneud ag ef yn dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, yw’r awdurdod, y person neu’r corff a grybwyllir mewn perthynas â’r categori hwnnw;
F1ystyr “ymgynghorai cymunedol” (“community consultee”) yw—
(a)
pob cynghorydd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy’n cynrychioli ward etholiadol y lleolir ynddi dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a
(b)
pob cyngor cymuned y lleolir yn ei ardal dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;
(2)
Yn y Gorchymyn hwn ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig neu storio electronig at unrhyw un o ddibenion y Gorchymyn hwn y gellir ei gyflawni'n electronig—
(a)
mae'r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddiben cyfathrebiadau neu storio o'r fath ac eithrio, pan fo'r Gorchymyn hwn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i ddarparu enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, na chyflawnir y rhwymedigaeth oni fydd y person y'i gosodir arno yn darparu cyfeiriad post; a
(b)
mae cyfeiriadau at ddogfennau, mapiau, planiau, lluniadau, tystysgrifau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o'r cyfryw bethau, yn cynnwys cyfeiriadau at y cyfryw ddogfennau neu gopïau ohonynt mewn ffurf electronig.
(3)
Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo person yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y dibenion canlynol—
(a)
cyflawni unrhyw ofyniad yn y Gorchymyn hwn i roi neu anfon unrhyw gais, hysbysiad neu ddogfen arall i, neu at, unrhyw berson arall; neu
(b)
cyflwyno unrhyw gais, tystysgrif neu ddogfen arall, y cyfeirir atynt yn erthygl 22(3), i awdurdod cynllunio lleol,
ac yn y paragraffau hynny, ystyr “y derbynnydd” (“the recipient”) yw'r person a grybwyllir yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwn neu'r awdurdod cynllunio lleol, yn ôl fel y digwydd.
(4)
Nid ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni, neu (yn ôl fel y digwydd) bod y cais wedi ei gyflwyno neu ddogfen arall wedi ei chyflwyno onid yw'r ddogfen a drawsyrrir gan y cyfathrebiad electronig—
(a)
yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddi;
(b)
yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c)
yn ddigon parhaol i'w defnyddio i gyfeirio ati yn ddiweddarach.
(5)
Ym mharagraff (4), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu ddogfen ar gael i'r derbynnydd i raddau dim llai nag y byddai pe bai wedi ei rhoi neu'i hanfon ar ffurf dogfen brintiedig.
(6)
Os yw'r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi cael y cyfathrebiad ar y diwrnod gwaith dilynol; ac at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.
(7)
Mae gofyniad, yn y Gorchymyn hwn, bod unrhyw gais, hysbysiad neu ddogfen arall mewn ysgrifen wedi ei fodloni os yw'r ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4), a rhaid dehongli “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras yn unol â hynny.