Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

Datblygiad sy'n effeithio ar briffyrdd presennol ac arfaethedig penodol

19.—(1Pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyfansoddir o'r canlynol, neu sy'n cynnwys y canlynol—

(a)ffurfio, llunweddu neu addasu unrhyw fynedfa i, neu oddi ar, unrhyw ran o gefnffordd sydd naill ai'n ffordd arbennig neu, os nad yn ffordd arbennig, yn ffordd sy'n ddarostyngedig i derfyn cyflymder o fwy na 40 milltir yr awr; neu

(b)unrhyw ddatblygiad o dir sydd o fewn 67 metr (neu pa bynnag bellter arall a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan yr erthygl hon) o ganol—

(i)unrhyw briffordd (ac eithrio cefnffordd) a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru, neu'r awdurdodwyd Gweinidogion Cymru i'w darparu, yn unol â gorchymyn o dan Ran 2 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cefnffyrdd, ffyrdd dosbarthiadol, ffyrdd metropolitanaidd, ffyrdd arbennig)(1) ac nad yw, ar y pryd, wedi ei throsglwyddo i unrhyw awdurdod priffyrdd arall;

(ii)unrhyw briffordd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei gwella o dan Ran 5 o'r Ddeddf honno (gwella priffyrdd) ac y rhoddwyd hysbysiad i'r awdurdod mewn perthynas â hi;

(iii)unrhyw briffordd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud gwelliannau iddi yn unol â gorchymyn o dan Ran 2 o'r Ddeddf honno; neu

(iv)unrhyw briffordd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei hadeiladu, y dangosir ei llwybr ar y cynllun datblygu, neu y rhoddodd Gweinidogion Cymru hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol ynglŷn â hi, ynghyd â mapiau neu blaniau digonol ar gyfer adnabod llwybr y briffordd,

rhaid i'r awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru drwy anfon copi o'r cais, ac o unrhyw blaniau a lluniadau a gyflwynwyd gyda'r cais, at Weinidogion Cymru.

(2Rhaid peidio â phenderfynu cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) oni fydd—

(a)yr awdurdod cynllunio lleol yn cael cyfarwyddyd o dan erthygl 18 (a rhaid i'r awdurdod wedyn benderfynu'r cais yn unol â thelerau'r cyfarwyddyd hwnnw);

(b)yr awdurdod wedi cael hysbysiad gan neu ar ran Gweinidogion Cymru, nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi unrhyw gyfarwyddyd o'r fath mewn perthynas â'r datblygiad y mae'r cais yn ymwneud ag ef; neu

(c)cyfnod o 28 diwrnod (neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen rhwng yr awdurdod a Gweinidogion Cymru) o'r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad i Weinidogion Cymru wedi dod i ben heb gael cyfarwyddyd o'r fath.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, mewn perthynas ag unrhyw achos neu unrhyw ddosbarth neu ddisgrifiad o achosion, roi cyfarwyddyd sy'n pennu pellter gwahanol at ddibenion paragraff (1)(b).

(4Yn yr erthygl hon—

ystyr “cefnffordd” (“trunk road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig sy'n gefnffordd yn rhinwedd adrannau 10(1) (darpariaeth gyffredinol ynglŷn â chefnffyrdd) neu 19 (ffyrdd arbennig penodol a phriffyrdd eraill i ddod yn gefnffyrdd) o Ddeddf Priffyrdd 1980(2) neu yn rhinwedd gorchymyn neu gyfarwyddyd o dan adran 10, neu unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw offeryn a wneir o dan unrhyw ddeddfiad;

ystyr “ffordd arbennig” (“special road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig sy'n ffordd arbennig yn unol ag adran 16 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth gyffredinol ynglŷn â ffyrdd arbennig)(3); ac

mae i “priffordd arfaethedig” yr ystyr a roddir i “proposed highway” yn adran 329 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth bellach ynglŷn â dehongli)(4).

(2)

Diwygiwyd adran 19 gan adran 21 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22).

(3)

Diwygiwyd adran 16 gan adran 36 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p.29) a pharagraffau 21 a 24 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.