RHAN 2Ceisiadau

Hysbysiad o atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru13.

Wrth atgyfeirio unrhyw gais at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol) yn unol â chyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw, rhaid i awdurdod cynllunio lleol gyflwyno i'r ceisydd hysbysiad sydd—

(a)

yn nodi telerau'r cyfarwyddyd ac unrhyw resymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros ei ddyroddi;

(b)

yn datgan bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru; ac

(c)

yn cynnwys datganiad y bydd Gweinidogion Cymru, os yw'r ceisydd yn dymuno hynny, yn rhoi cyfle i'r ceisydd ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a chael ei glywed ganddo, ac y bydd penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yn derfynol.