RHAN 2Ceisiadau
Cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio12.
(1)
Rhaid i awdurdod cynllunio lleol y gwneir cais iddo am ganiatâd cynllunio roi cyhoeddusrwydd i'r cais yn y modd a ragnodir gan yr erthygl hon.
(2)
Yn achos cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad—
(a)
sy'n gais AEA a gyflwynir ynghyd â datganiad amgylcheddol;
(b)
nad yw'n cydweddu â darpariaethau'r cynllun datblygu sydd mewn grym yn yr ardal lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais; neu
(c)
rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais yn y modd a bennir ym mharagraff (3).
(3)
Rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i gais sy'n dod o fewn paragraff (2) (“cais paragraff (2)”) drwy roi hysbysiad gofynnol—
(a)
drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; a
(b)
drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.
(4)
Yn achos cais am ganiatâd cynllunio nad yw'n gais paragraff (2) F1nac yn gais sy’n dod o fewn paragraff (4A), os yw'r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad mawr, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—
(a)
(i)
drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; neu
(ii)
drwy gyflwyno'r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol; a
(b)
drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.
F2(4A)
Yn achos cais adran 73 nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2)(a) neu (c), rhaid hysbysebu’r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—
(a)
drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, am o leiaf 21 diwrnod; a
(b)
ym mha bynnag fodd arall a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cynllunio lleol.
(5)
Mewn achos nad yw paragraff (2) F3, paragraff (4) na pharagraff (4A) yn gymwys iddo, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—
(a)
drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; neu
(b)
drwy gyflwyno'r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol.
(6)
Os caiff hysbysiad ei dynnu ymaith, ei guddio neu'i ddifwyno cyn bo'r cyfnod o 21 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), (4)(a)(i) F4, (4A) neu (5)(a) wedi dod i ben, a hynny pan nad oedd bai ar yr awdurdod cynllunio lleol na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin yr awdurdod fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol, os cymerodd gamau rhesymol i ddiogelu'r hysbysiad ac i'w ailosod pe bai angen.
(7)
Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cynnal gwefan at y diben o roi cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio, rhaid cyhoeddi'r wybodaeth ganlynol ar y wefan—
(a)
cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig;
(b)
disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig;
(c)
erbyn pa ddyddiad y bydd rhaid gwneud unrhyw sylwadau, sef dyddiad na chaiff fod yn gynharach na diwrnod olaf y cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y cyhoeddir yr wybodaeth;
(ch)
ymhle a pha bryd y ceir archwilio'r cais; F5...
(d)
sut y gellir gwneud sylwadau ynglŷn â'r cais.
F6; ac
(dd)
yn achos cais deiliad tŷ neu gais masnachol bach, os digwydd apêl sy’n dilyn y weithdrefn hwylusach, y bydd unrhyw sylwadau a wneir ynglŷn â’r cais yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru ac na fydd cyfle i wneud sylwadau pellach.
(8)
(9)
Os yw paragraff (8) yn gymwys, pan fydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi bodloni gofynion yr erthygl hon, rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi gwneud hynny.
(10)
Yn yr erthygl hon—
ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf briodol a bennir yn Atodlen 3 neu ffurf sylweddol gyffelyb o ran effaith; ac
ystyr “perchennog neu feddiannydd cyffiniol” (“adjoining owner or occupier”) yw unrhyw berchennog neu feddiannydd unrhyw dir cyffiniol i'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef.