(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1104 (Cy.116)) (“Rheoliadau 2007”). Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer talu treuliau teithio i bersonau, ymhlith eraill, sydd ar incwm isel, a pheidio â chodi ffioedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar y personau hynny, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a'u cyfalaf.

Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan Reoliadau 2007 er mwyn canfod a oes hawlogaeth gan y person hwnnw i beidio â thalu ffioedd GIG ac i gael taliad o dreuliau teithio GIG, cymhwysir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.

Mae rheoliad 3 yn newid yr addasiad i reoliad 45 o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987, er mwyn codi'r terfyn cyfalaf rhagnodedig i £23,250 o 9 Ebrill 2012 ymlaen.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.