Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi, gyda diwygiadau, Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“y prif Reoliadau”) ac offerynnau diwygio dilynol, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r rhan fwyaf o ddarpariaethau'r prif Reoliadau i'w cario ymlaen, yn ddarostyngedig, mewn rhai achosion, i fân newidiadau drafftio. Cymerwyd y cyfle i ad-drefnu peth o'r deunydd.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn gwneud newidiadau i ffurf a chynnwys ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig a chaniatâd ardal gadwraeth a cheisiadau i amrywio neu ollwng amodau sydd ynghlwm â'r caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth. Rhaid i geisiadau gael eu gwneud ar ffurflen a ddarperir gan Weinidogion Cymru a chynnwys yr wybodaeth ragnodedig.

Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaethau gweithdrefnol ar gyfer ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig, caniatâd ardal gadwraeth, amrywio neu ollwng amodau sydd ynghlwm â chaniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth ac am apelau o ran y materion hyn (rheoliadau 3 i 12).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer materion gweithdrefnol eraill mewn perthynas â chaniatâd adeilad rhestredig a chaniatâd ardal gadwraeth: darpariaethau gweithdrefnol ar gyfer digolledu a hysbysiadau prynu adeilad rhestredig (rheoliad 13); y modd y mae'n rhaid i ddirymiad neu addasiad diwrthwynebiad i orchmynion caniatâd gael eu hysbysebu (rheoliad 14); ar gyfer cymhwyso ac addasu deddfwriaeth mewn perthynas â hysbysiadau gorfodi ar gyfer adeiladau rhestredig ac adeiladau sydd heb eu rhestru mewn ardaloedd cadwraeth (rheoliadau 15 ac 16) a hysbysiadau o adeiladau rhestredig (rheoliad 17).

Mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaethau trosiannol ar gyfer ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig a chaniatâd ardal gadwraeth a wnaed o fewn mis i'r Rheoliadau hyn ddod i rym. Mae'r Rheoliadau'n dirymu offerynnau statudol blaenorol y maent yn eu disodli ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i offerynnau eraill.

Paratowyd asesiad effaith mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Fe'i rhoddwyd yn llyfrgell Llywodraeth Cymru a gellir cael copïau ohono gan: Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.