(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (“Rheoliadau 1999”) yn gwneud darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ar gyfer ffurf gorchmynion cadw coed ac ar gyfer ceisiadau am gydsyniad i wneud gwaith ar goed sy'n ddarostyngedig i orchymyn.

Mae rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 9B newydd yn Rheoliadau 1999 i wneud darpariaeth ar gyfer ffurf a chynnwys ceisiadau am gydsyniad ar gyfer gweithio ar goed yng Nghymru. Mae diwygiadau canlyniadol yn cael eu gwneud i'r Atodlen i Reoliadau 1999 gan reoliad 2(3).

Paratowyd asesiad effaith mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan: Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar-lein yn www.cymru.gov.uk.