Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn gwneud darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ar gyfer ffurf ceisiadau am gydsyniad datganedig i arddangos hysbyseb.
Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn amnewid rheoliad 9 o Reoliadau 1992. Mae'r rheoliad 9 a amnewidiwyd yn ei gwneud yn ofynnol i geisiadau am gydsyniad datganedig gael eu gwneud ar ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ac yn pennu'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gydsyniad datganedig. Cyhoeddwyd y ffurflen ar wefan y Porth Cynllunio ac y mae ar gael ar y wefan honno a gan awdurdodau cynllunio lleol.
Paratowyd asesiad effaith mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan: Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar-lein yn www.cymru.gov.uk.