Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012.
Buddiannau cofrestradwy2.
Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn pennu buddiannau cofrestradwy deiliaid swydd perthnasol at ddibenion Pennod 1 o Ran 8 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
YR ATODLENBUDDIANNAU COFRESTRADWY
RHAN 1
Dehongli
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) mewn perthynas â deiliad swydd perthnasol yw partner y deiliad swydd perthnasol ac unrhyw blentyn;
ystyr “eiddo perthnasol” (“relevant property”) yw tir neu eiddo deallusol y mae gan y Comisiynydd fuddiant ynddo lle bo'r buddiant hwnnw wedi ei gaffael drwy arian a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru dan baragraff 14 o Atodlen 1 i'r Mesur;
ystyr “Mesur” (“Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
ystyr “partner” (“partner”) yw priod, partner sifil neu un o gwpl boed hynny o'r un rhyw neu o'r rhyw arall sy'n byw gyda'i gilydd, er nad ydynt yn briod, ac sy'n trin ei gilydd fel dau briod;
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw person sydd o fewn Atodlen 6 neu 8 i'r Mesur (boed hynny fel unigolyn neu fel rhan o grŵp o bersonau); ac
ystyr “plentyn” (“child”) yw unrhyw berson sydd, pan gofrestrir y buddiant, naill ai yn—
(a)
plentyn i'r deiliad swydd perthnasol;
(b)
llysblentyn i'r deiliad swydd perthnasol drwy briodas neu bartneriaeth sifil;
(c)
person sydd wedi ei fabwysiadu'n gyfreithiol gan ddeiliad swydd perthnasol;
(d)
person sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r deiliad swydd perthnasol; neu
(e)
person sy'n iau nag un ar bymtheng mlwydd oed, neu'n iau na phedair ar bymtheng mlwydd oed ac yn derbyn addysg amser-llawn, ac sydd am y chwe mis calendr blaenorol wedi cael cefnogaeth ariannol gan y deiliad swydd perthnasol.
RHAN 2
Buddiannau
Dyma'r buddiannau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2—
(a)
manylion unrhyw swydd neu gyflogaeth a ddelir gan aelod o deulu deliad swydd perthnasol gyda pherson perthnasol;
(b)
manylion unrhyw fuddiant sydd gan ddeiliad swydd perthnasol neu aelod o deulu deiliad swydd perthnasol mewn eiddo perthnasol;
(c)
enwau cwmnïau neu gyrff eraill y mae gan ddeiliad swydd perthnasol, naill ai ar ei ben ei hun neu gydag aelod o'i deulu, neu ar ran aelod o'i deulu, fuddiant llesiannol mewn cyfranddaliadau; a
(d)
swyddi cyfarwyddwyr am dâl a ddelir gan ddeiliad swydd perthnasol mewn unrhyw gwmni, gan gynnwys swyddi cyfarwyddwyr na thelir tâl iddynt yn unigol ond lle telir tâl drwy gwmni arall yn yr un grŵp.
Mae adrannau 134 i 139 o Bennod 1 o Ran 8 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ynghylch uniondeb cymeriad Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) a Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (“y Dirprwy Gomisiynydd”).
Mae adran 134 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd a'r Dirprwy Gomisiynydd (a ddiffinnir at ddibenion Pennod 1 o Ran 8 o'r Mesur fel “deiliaid swydd perthnasol”) greu a chynnal cofrestr buddiannau. Rhaid i gofrestr buddiannau deiliad swydd perthnasol gynnwys ei holl fuddiannau cofrestradwy.
Mae adran 138 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu pa fuddiannau sy'n fuddiannau cofrestradwy at ddibenion Pennod 1 o Ran 8 o'r Mesur.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn gan ddibynnu ar y pŵer a ddarparwyd gan adran 138 o'r Mesur. Mae rheoliad 2 yn cyflwyno'r Atodlen i'r Rheoliadau, sydd yn pennu buddiannau cofrestradwy deiliaid swyddi perthnasol
Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn.