(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 16 a 17 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau i ddadgofrestru tir a gofrestrwyd fel tir comin neu fel maes tref neu bentref ac i gofrestru tir arall yn gyfnewid.
Yng Nghymru mae ceisiadau o'r fath i gael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru neu gan berson a benodir ganddynt. Os caniateir cais, mae'n ofynnol o dan adran 17(1) a (2) o Ddeddf 2006 bod Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn, sy'n cyfarwyddo'r awdurdod cofrestru tiroedd comin i ddiwygio'i gofrestr o diroedd comin neu o feysydd tref neu bentref yn unol â hynny.
Hyd yma, nid yw Rhan 1 o Ddeddf 2006 wedi ei dwyn i rym yn llawn yng Nghymru. Hyd nes deuir ag adrannau 1 i 3 i rym, rhaid trin gorchymyn o dan adran 17 fel pe bai'n orchymyn sy'n cyfarwyddo'r awdurdod cofrestru i ddiwygio'r cofrestri a gynhelir gan yr awdurdod yn unol â Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (“Deddf 1965”), yn rhinwedd darpariaethau trosiannol a gynhwysir yng Ngorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/739 (Cy.99) (C.19)).
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r modd y mae'n rhaid i awdurdod cofrestru ddiwygio'r cofrestri a gynhelir ganddo yn unol â Deddf 1965, pan gaiff yr awdurdod cofrestru orchymyn o dan adran 17.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi yngl?n â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar-lein o www.cymru.gov.uk.