Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012 ddarpariaethau penodol o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) o ran Cymru.
Roedd Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2386) (Cy.197) (C.88) yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau at y diben cyfyngedig o alluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau ac i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth drwy reoliadau.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau sy'n ymwneud â datgofrestru a chyfnewid tir comin, a gweithfeydd arno, ynghyd ag apelau cysylltiedig.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym at bob diben sy'n weddill ddarpariaethau sy'n ymwneud â datgofrestru a chyfnewid tir comin, a gweithfeydd arno.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion sy'n ymwneud â'r darpariaethau a gaiff eu dwyn i rym gan erthyglau 2 a 3 o'r Gorchymyn hwn.
Gellir cael gwybodaeth bellach ar y darpariaethau y daw'r Gorchymyn hwn â hwy i rym yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf Tiroedd Comin 2006 y gellir eu gweld yn www.legislation.gov.uk.