Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion4.
(1)
Hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas ag unrhyw ardal o Gymru—
(a)
mae cyfeiriadau at dir wedi ei gofrestru'n dir comin neu'n faes y dref neu'n faes y pentref yn y canlynol—
(i)
adrannau 16 ac 17 o Ddeddf 2006;
(ii)
adrannau 38 a 44 o Ddeddf 2006; a
(iii)
mewn perthynas â'r ardal honno, i'w trin fel cyfeiriadau at dir sydd wedi ei gofrestru felly o dan Ddeddf 1965;
(b)
mae cyfeiriadau yn adran 17 o Ddeddf 2006 at hawliau comin yn cael eu cofrestru'n rhai sy'n arferadwy dros dir o'r fath i'w trin, mewn perthynas â'r ardal honno, fel cyfeiriadau at hawliau comin sydd wedi eu cofrestru felly o dan Ddeddf 1965; a
(c)
mae gorchymyn o dan adran 17(1) o Ddeddf 2006 sy'n ymwneud â thir yn yr ardal honno i'w drin fel gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cofrestru tiroedd Comin dynnu'r tir a ryddheir o gofrestr y tiroedd comin neu feysydd tref neu bentref a gedwir o dan Ddeddf 1965, ac (os yw'n gymwys) i gofrestru'r materion y cyfeirir atynt yn adran 17(2) o Ddeddf 2006 yn y gofrestr honno.
(2)
(3)
(4)
Er gwaethaf diddymu adran 194 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925—
(a)
mae unrhyw gais am gydsyniad o dan yr adran honno a wnaed cyn 1 Ebrill 2012 i'w drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'r adran honno'n parhau mewn grym; a
(b)
os rhoddir cydsyniad i gais o'r fath, ni fydd adran 38(1) o Ddeddf 2006 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithfeydd sy'n cael eu gwneud yn unol â'r cydsyniad hwnnw.