Darpariaethau yn dod i rym2.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012—
(a)
adran 16 (datgofrestru a chyfnewid: ceisiadau);
(b)
adran 17(1) i (2) a (4) i (9) (datgofrestru a chyfnewid: gorchmynion);
(c)
adran 38 (gwaharddiad ar weithfeydd heb gydsyniad);
(ch)
adran 39(1) i (5) a (7) (cydsyniad: cyffredinol);
(d)
adran 41 (gorfodi);
(dd)
adran 42(1) i (3) a (5) (cynlluniau);
(e)
adran 48 (cau tir); ac
(f)
i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(i)
Atodlen 4 (gweithfeydd: atodol); a
(ii)
Rhannau 2, 3 a 5 o Atodlen 6 (diddymiadau), ac adran 53 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau hynny.