(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhagnodi'r weithdrefn ar gyfer gwneud ceisiadau i Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 am ddadgofrestru, neu ddadgofrestru a chyfnewid, tir a gofrestrwyd fel tir comin neu faes tref neu bentref.
Maent yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi person i arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadau o'r fath (rheoliad 3).
Maent yn cynnwys darpariaethau ynghylch—
gwneud a rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau (rheoliadau 5, 7 ac 8);
gwneud sylwadau mewn perthynas â cheisiadau (rheoliad 10); ac
rheoli a phenderfynu ceisiadau, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer cynnal archwiliadau safle, gwrandawiadau neu ymchwiliadau mewn achosion priodol (rheoliadau 6, 9 ac 11-19).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar-lein o www.cymru.gov.uk.