(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhagnodi'r weithdrefn ar gyfer gwneud ceisiadau i Weinidogion Cymru o dan adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) am ganiatâd i gyflawni gwaith cyfyngedig ar dir comin, a mathau cysylltiedig penodol o geisiadau. At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae i'r term 'gwaith cyfyngedig' yr ystyr a roddir i 'restricted works' gan adran 38(2), (3) a (4) o Ddeddf 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi person i arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadau o'r fath (rheoliad 3).

Maent yn cynnwys darpariaethau ynghylch—

(a)

gwneud a rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau (rheoliadau 5, 7, 8 a 19);

(b)

gwneud sylwadau mewn perthynas â cheisiadau (rheoliad 10);

(c)

rheoli a phenderfynu ceisiadau, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer cynnal archwiliadau safle, gwrandawiadau neu ymchwiliadau mewn achosion priodol (rheoliadau 6, 9, 11-18 ac 20); a

(ch)

ceisiadau am ganiatâd ar gyfer gwaith ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (rheoliad 21).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar-lein o www.cymru.gov.uk.