Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

9.  Personau sydd—

(a)wedi cwblhau, yn llwyddiannus, ddim llai na blwyddyn ysgol o wasanaeth llawnamser, fel athrawon sy'n drwyddedig gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey, a'r hyfforddiant a bennir yn y drwydded; a

(b)cyn dyddiad cychwyn y drwydded, wedi eu cyflogi am ddim llai na dwy flynedd fel—

(i)athrawon neu ddarlithwyr mewn ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinasol neu academi) neu sefydliad neu brifysgol yn y Deyrnas Unedig;

(ii)hyfforddwyr neu swyddogion addysg yn Lluoedd Arfog y Goron;

(iii)hyfforddwyr o dan—

(a2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1993;

(b2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999(1);

(c2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

(ch2)paragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Lloegr) 2003(2); neu

(d2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004(3); neu

(iv)person sydd â chymwysterau arbennig neu brofiad arbennig o dan baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010(4),

a heb gael eu diswyddo ar unrhyw sail ac eithrio dileu swydd.

(1)

O.S. 1999/2166, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2704, 2001/1391, 2001/2896, 2001/3737, 2002/1434 a 2003/107. Dirymwyd O.S. 1999/2166 yn rhannol gan O.S. 2003/1662 gyda'r darpariaethau a oedd ar ôl yn cael eu dirymu gan O.S. 2003/3139.