11. Personau sydd—
(a)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwyster arall cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad estron;
(b)wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon, yn llwyddiannus mewn sefydliad achrededig yn Lloegr;
(c)wedi gwneud cyfnod o brofiad addysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon hwnnw yn gyfan gwbl neu'n bennaf mewn ysgol, coleg dinasol, academi, ysgol annibynnol neu sefydliad arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yn Lloegr, neu mewn ysgol a weinyddir gan Addysg Plant y Lluoedd Arfog(1);
(ch)wedi eu hasesu gan y sefydliad yn is-baragraff (b) ac yn bodloni'r safonau penodedig yn Lloegr; ac
(d)yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002.
Asiantaeth a berthyn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn yw Addysg Plant y Lluoedd Arfog.