Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu darpariaethau yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) gyda rhai darpariaethau diwygiedig yn Atodlen 2 ac, yn gyffredinol, maent yn diweddaru ychydig a gwneud rhai newidiadau drafftio bychain. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaethau arbed a throsiannol a diwygiadau canlyniadol.
Nid yw darpariaethau anarferedig Rheoliadau 2004 wedi eu hailddeddfu.
Mae rheoliad 4 yn dirymu Rheoliadau 2004 ac yn gwneud y darpariaethau arbed a throsiannol a nodir yn Atodlen 1.
Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn pennu'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni cyn i bersonau fod yn athrawon cymwysedig yng Nghymru a thrwy hynny yn derbyn statws athro cymwysedig.
Mae rheoliad 6 yn darparu bod Gweinidogion Cymru neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn hysbysu personau penodol sydd yn bodloni'r gofynion yn Atodlen 2 o'r ffaith eu bod yn athrawon cymwysedig ac yn nodi'r dyddiad pan fydd yr hysbysiad hwnnw'n dechrau cael effaith.
Mae rheoliad 7 yn galluogi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i achredu sefydliadau sy'n darparu cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ac yn bodloni'r meini prawf a bennir gan Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 8 yn caniatáu i Weinidogion Cymru sefydlu cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth sy'n galluogi personau i hyfforddi i fod yn athrawon tra bônt yn gyflogedig. O dan y cynllun, caiff personau eu hasesu gan sefydliadau achrededig er mwyn penderfynu os ydynt yn bodloni'r safonau penodedig heb hyfforddiant pellach. Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar y cynllun, ac mae'n rhaid i bersonau sy'n arfer swyddogaethau o dan y cynllun roi ystyriaeth iddynt. Mae darpariaethau arbed yn Atodlen 1 yn darparu bod cynlluniau hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth a sefydlwyd o dan Reoliadau 2004 yn parhau, er gwaethaf dirymu Rheoliadau 2004.
Mae rheoliadau 9 i 11 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau eraill gan roi cyfeiriadau at y Rheoliadau hyn, mewn rhai achosion, yn lle'r cyfeiriadau at Reoliadau 2004. Mae rheoliad 10 hefyd yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 i ddarparu y caiff asesiadau penodol eu cynnal gan sefydliadau achrededig.