Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012
Enwi, cychwyn, a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012, a daw i rym ar 27 Mawrth 2012.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Newid blwyddyn etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn2.
(1)
Mae'r erthygl hon yn gymwys i etholiad cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn.
(2)
Cyfnod swydd cynghorwyr presennol3.
Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr presennol a etholwyd i Gyngor Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn.
Newid blwyddyn etholiadau cyffredin cynghorwyr cymuned i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn4.
(1)
Mae'r erthygl hon yn gymwys i etholiad cyffredin cynghorwyr cymuned i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn.
(2)
Cyfnod swydd cynghorwyr presennol5.
Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr cymuned presennol a etholwyd i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn newid blynyddoedd etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn a chynghorwyr i'r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2013 yn lle 2012. Mae hefyd yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i'r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2013 yn lle 2012.
Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr presennol a etholwyd i Gyngor Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn. Mae cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr cymuned presennol a etholwyd i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn hefyd wedi ei estyn felly gan un flwyddyn.
Mae'r cynllun ar gyfer ethol cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn yn aros yn ddigyfnewid, gan olygu y bydd etholiadau cyffredin dilynol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd wedi 2013. Mae'r cynllun ar gyfer ethol cynghorwyr cymuned i'r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn hefyd yn aros yn ddigyfnewid, gan olygu y bydd etholiadau cyffredin dilynol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd wedi 2013.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwrth-wneud y darpariaethau cyffredinol o ran amseriad etholiadau cyffredin a chyfnod swydd cynghorwyr yng Nghymru sydd wedi eu nodi yn adran 26 (prif gynghorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwrth-wneud y darpariaethau cyffredinol o ran amseriad etholiadau cyffredin a chyfnod swydd cynghorwyr cymuned yng Nghymru sydd wedi eu nodi yn adran 35 (cynghorau cymuned) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o ran costau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Democratiaeth, Moeseg a Phartneriaeth, Adran Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.