- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
6 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Mawrth 2012
Yn dod i rym
27 Mawrth 2012
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012, a daw i rym ar 27 Mawrth 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i etholiad cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn.
(2) Bydd etholiadau a fuasai, oni bai am y Gorchymyn hwn, wedi eu cynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr(3) yn 2012 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2012(4) yn cael eu cynnal yn lle hynny ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2013 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2013.
3. Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr presennol a etholwyd i Gyngor Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn.
4.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i etholiad cyffredin cynghorwyr cymuned i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn.
(2) Bydd etholiadau a fuasai, oni bai am y Gorchymyn hwn, wedi eu cynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr cymuned(5) yn 2012 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2012(6) yn cael eu cynnal yn lle hynny ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr cymuned yn 2013 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2013.
5. Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr cymuned presennol a etholwyd i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn newid blynyddoedd etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn a chynghorwyr i'r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2013 yn lle 2012. Mae hefyd yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i'r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2013 yn lle 2012.
Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr presennol a etholwyd i Gyngor Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn. Mae cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr cymuned presennol a etholwyd i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn hefyd wedi ei estyn felly gan un flwyddyn.
Mae'r cynllun ar gyfer ethol cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn yn aros yn ddigyfnewid, gan olygu y bydd etholiadau cyffredin dilynol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd wedi 2013. Mae'r cynllun ar gyfer ethol cynghorwyr cymuned i'r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn hefyd yn aros yn ddigyfnewid, gan olygu y bydd etholiadau cyffredin dilynol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd wedi 2013.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwrth-wneud y darpariaethau cyffredinol o ran amseriad etholiadau cyffredin a chyfnod swydd cynghorwyr yng Nghymru sydd wedi eu nodi yn adran 26 (prif gynghorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwrth-wneud y darpariaethau cyffredinol o ran amseriad etholiadau cyffredin a chyfnod swydd cynghorwyr cymuned yng Nghymru sydd wedi eu nodi yn adran 35 (cynghorau cymuned) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o ran costau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Democratiaeth, Moeseg a Phartneriaeth, Adran Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
Am ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr ardaloedd llywodraeth leol, gweler adran 37 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p.2), fel y'i diwygiwyd gan adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), paragraffau 1 a 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29), ac adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28).
Am y flwyddyn y buasai etholiadau cyffredin wedi eu cynnal fel arall, gweler adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) mewn perthynas â chynghorwyr prif gynghorau.
Am ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr cymuned ardaloedd llywodraeth leol, gweler adran 37 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p.2), fel y'i diwygiwyd gan adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), paragraffau 1 a 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29), ac adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28).
Am y flwyddyn y buasai etholiadau cyffredin wedi eu cynnal fel arall, gweler adran 35 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) mewn perthynas â chynghorwyr cymuned.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: