<Legislation xmlns="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation" xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" DocumentURI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/made/welsh" IdURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2012/65" NumberOfProvisions="10" xsi:schemaLocation="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation http://www.legislation.gov.uk/schema/legislation.xsd" SchemaVersion="1.0" xml:lang="cy"><ukm:Metadata xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/" xmlns:dct="http://purl.org/dc/terms/" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:ukm="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/metadata">
<dc:identifier>http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made/welsh</dc:identifier><dc:title>Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2012</dc:title><dc:language>cy</dc:language><dc:publisher>King's Printer of Acts of Parliament</dc:publisher><dc:modified>2012-11-22</dc:modified><dc:subject scheme="SIheading">DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU</dc:subject>
<dc:description>Mae Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (“Deddf GAMA”) yn sefydlu system o dargedau ar gyfer lleihau maint y gwastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon ar gyfer tirlenwi ym mhob rhanbarth o'r DU ac yn y DU yn gyfan. Mae hyn yn rhoi effaith i rwymedigaethau'r DU o dan erthygl 5(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff (OJ Rhif L 182, 17.7.1999, t. 1).</dc:description>
<atom:link rel="self" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made/welsh/data.xml" type="application/xml"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/resources" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/resources/welsh" title="More Resources"/>

<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/act" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/made/welsh" title="whole act"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/introduction" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/introduction/made/welsh" title="introduction"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/signature" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/signature/made/welsh" title="signature"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/note" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made/welsh" title="note"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/body" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/body/made/welsh" title="body"/>

<atom:link rel="alternate" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made"/><atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/contents/made" title="Table of Contents"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/rdf+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made/welsh/data.rdf" title="RDF/XML"/><atom:link rel="alternate" type="application/akn+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made/welsh/data.akn" title="AKN"/><atom:link rel="alternate" type="application/xhtml+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made/welsh/data.xht" title="HTML snippet"/><atom:link rel="alternate" type="text/html" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made/welsh/data.htm" title="Website (XHTML) Default View"/><atom:link rel="alternate" type="text/csv" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made/welsh/data.csv" title="CSV"/><atom:link rel="alternate" type="application/pdf" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made/welsh/data.pdf" title="PDF"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/akn+xhtml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made/welsh/data.html" title="HTML5 snippet"/>

<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="cy" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/contents/made/welsh" title="Table of Contents"/>

<atom:link rel="up" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/made/welsh" title="Entire legislation"/><atom:link rel="prev" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/signature/made/welsh" title="Signature; Signature"/><atom:link rel="prevInForce" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/signature/made/welsh" title="Signature; Signature"/>
<ukm:SecondaryMetadata><ukm:DocumentClassification>
<ukm:DocumentCategory Value="secondary"/>
<ukm:DocumentMainType Value="WelshStatutoryInstrument"/>
<ukm:DocumentStatus Value="final"/>
<ukm:DocumentMinorType Value="regulation"/>
</ukm:DocumentClassification><ukm:Year Value="2012"/><ukm:Number Value="65"/><ukm:AlternativeNumber Category="Cy" Value="16"/><ukm:Made Date="2012-01-10"/><ukm:Laid Date="2012-01-12" Class="WelshAssembly"/><ukm:ISBN Value="9780348105445"/></ukm:SecondaryMetadata>

<ukm:Alternatives><ukm:Alternative URI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/pdfs/wsi_20120065_mi.pdf" Date="2012-01-27" Size="57751" Language="Mixed"/></ukm:Alternatives>

<ukm:Statistics>
<ukm:TotalParagraphs Value="10"/>
<ukm:BodyParagraphs Value="10"/>
<ukm:ScheduleParagraphs Value="0"/>
<ukm:AttachmentParagraphs Value="0"/>
<ukm:TotalImages Value="0"/>
</ukm:Statistics>
</ukm:Metadata><Secondary><ExplanatoryNotes DocumentURI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/65/note/made/welsh" IdURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2012/65/note">
<Comment>
<Para>
<Text>(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)</Text>
</Para>
</Comment>

<Text>Mae Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (“Deddf GAMA”) yn sefydlu system o dargedau ar gyfer lleihau maint y gwastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon ar gyfer tirlenwi ym mhob rhanbarth o'r DU ac yn y DU yn gyfan. Mae hyn yn rhoi effaith i rwymedigaethau'r DU o dan erthygl 5(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff (OJ Rhif L 182, 17.7.1999, t. 1).</Text>

<Text>Cesglir a gwaredir gwastraff trefol pydradwy gan awdurdodau lleol a chan y sector preifat. Mae'r targedau yn gymwys i'r ddau ohonynt.</Text>

<Text>Fel rhan o'r drefn i sicrhau bod y targedau'n cael eu bodloni, mae Deddf GAMA yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyrannu lwfansau i awdurdodau lleol yn eu swyddogaeth fel awdurdodau gwaredu gwastraff. Caniateir i awdurdodau lleol dirlenwi un dunnell o wastraff trefol pydradwy ar gyfer pob lwfans a ddelir ganddynt. Ceir y rheolau manwl ar sut y mae'r system o lwfansau'n gweithio yn Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (<Citation URI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2004/1490" id="c00002" Class="WelshStatutoryInstrument" Year="2004" Number="1490" AlternativeNumber="Cy. 155">O.S. 2004/1490 (Cy. 155)</Citation>). Nid yw'r Cynllun hwnnw'n gymwys i wastraff a waredwyd gan y sector preifat.</Text>

<Text>Yn flaenorol defnyddiwyd y term “biodegradable municipal waste” (“gwastraff trefol pydradwy”) yn Neddf GAMA i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ei gwmpasu ac i gyfeirio at y categori ehangach o wastraff y mae'r targedau'n ei gwmpasu. Cafodd Deddf GAMA ei diwygio er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau. Gwnaed y diwygiadau hynny gan Reoliadau Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (Diwygio) 2011 (<Citation URI="http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/2011/2499" id="c00003" Class="UnitedKingdomStatutoryInstrument" Year="2011" Number="2499">O.S. 2011/2499</Citation>) a ddaeth i rym ar 21 Tachwedd 2011. Dangoswyd y gwahaniaeth drwy gyflwyno'r term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol” i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ymwneud ag ef. Gwnaed diwygiad cysylltiedig i gyflwyno'r term “gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol” i wahaniaethu rhwng gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdodau lleol a gwastraff trefol nas casglwyd gan awdurdodau lleol.</Text>

<Text>Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 fel bod y termau newydd hefyd yn cael eu defnyddio yn Rheoliadau 2004. Diwygiadau technegol yw'r rhain a fydd yn cael effaith niwtral ar awdurdodau lleol a'r sector busnes a'r sector gwirfoddol.</Text>

<Text>Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu dwy set gynharach o reoliadau a luniwyd i wneud yr un diwygiadau. Roedd y Rheoliadau cynharach hynny yn cynnwys gwallau.</Text>

<Text>Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n angenrheidiol i wneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.</Text>

</ExplanatoryNotes></Secondary></Legislation>