Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 12 Ionawr 2012, yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1080 (Cy.114)) (“Rheoliadau 2008”) er mwyn rhoi ar waith Benderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/884/EU ar fesurau brys ynghylch reis sydd wedi ei addasu'n enetig heb awdurdod mewn cynhyrchion reis sy'n tarddu o Tsieina a hwnnw'n Benderfyniad sy'n diddymu Penderfyniad 2008/289/EC (OJ Rhif L343, 23.12.2011, t.140) (“Penderfyniad y Comisiwn”). Mae Penderfyniad y Comisiwn yn darparu i gyfyngiadau ar fewnforio a oedd gynt yn gymwys i reis Bt 63 a addaswyd yn enetig fod yn gymwys, gydag addasiadau, i'r holl reis a addaswyd yn enetig heb awdurdod.

Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2008 drwy —

(a)mewnosod yn rheoliad 2 ddiffiniad o Benderfyniad y Comisiwn a diwygio, ychwanegu neu ddileu diffiniadau penodol eraill (rheoliad 2(2));

(b)diwygio rheoliad 3(1), drwy osod amodau y caniateir i gynhyrchion penodedig (reis a chynhyrchion reis sy'n tarddu o Tsieina neu a anfonwyd oddi yno) gael eu rhoi ar y farchnad odanynt (rheoliad 2(3));

(c)hepgor rheoliad 4, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd am ganlyniadau profion penodol (rheoliad 2(4));

(ch)diwygio rheoliad 5(4), sy'n nodi'r darpariaethau ym Mhenderfyniad y Comisiwn y mae'n rhaid i swyddog gorfodi awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd sicrhau y cydymffurfir â hwy (rheoliad 2(5));

(d)mewnosod fel rheoliad 7 newydd ddarpariaeth i roi ar waith y gofyniad yn Erthygl 8 o Benderfyniad y Comisiwn bod rhaid i'r holl gostau sy'n ganlyniad i'r rheolaethau swyddogol ac i unrhyw fethiant â chydymffurfio gael eu hysgwyddo gan y gweithredwr busnes bwyd neu fusnes bwyd anifeiliaid o dan sylw (rheoliad 2(7)), ac

(dd)mewnosod fel rheoliad 8 newydd ddarpariaeth sy'n rhoi ar waith y trefniadau trosiannol a gynhwysir yn Erthygl 9 o Benderfyniad y Comisiwn (rheoliad 2(7)).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei baratoi ac fe'i cyhoeddir cyn gynted ag y bydd wedi ei gwblhau. Oherwydd natur brys yr offeryn hwn, nid oedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gallu cwblhau'r asesiad effaith rheoleiddiol cyn i'r offeryn ddod i rym.