Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
BWYD, CYMRU
Gwnaed
11 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Ionawr 2012
Yn dod i rym
12 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).
Cafodd Gweinidogion Cymru eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu y porthir hwy ag ef(2).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 12 Ionawr 2012.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008(3) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (7).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) —
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” rhodder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/884/EU ar fesurau brys ynghylch reis a addaswyd yn enetig heb awdurdod mewn cynhyrchion reis sy'n tarddu o Tsieina a hwnnw'n Benderfyniad sy'n diddymu Penderfyniad 2008/289/EC(4);”;
(ii)hepgorer y diffiniad o “rhoi gyntaf ar y farchnad”;
(iii)yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn —
“mae i “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002;”, a
(iv)yn y diffiniad o “cynnyrch penodedig”, yn lle “yr Atodiad” rhodder “Atodiad I”; a
(b)mewnosoder y paragraff canlynol yn union ar ôl paragraff (2) —
“(3) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir ym Mhenderfyniad y Comisiwn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ystyr sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw ym Mhenderfyniad y Comisiwn.”.
(3) Yn lle'r pennawd i reoliad 3 (cyfyngiad ar roi cynhyrchion penodedig gyntaf ar y farchnad) a pharagraff (1) ohono, rhodder y canlynol —
3.—(1) Gwaherddir rhoi unrhyw gynnyrch penodedig ar y farchnad—
(a)oni chydymffurfiwyd ag amodau a bennir yn Erthygl 4 o Benderfyniad y Comisiwn mewn perthynas â'r cynnyrch; a
(b)oni bai bod llwyth y cynnyrch penodedig wedi ei rannu yn dilyn rheolaeth swyddogol, a bod copi dilysedig o'r dystysgrif iechyd a'r adroddiad dadansoddiadol yn dod gyda phob rhan o'r llwyth rhanedig.”.
(4) Mae rheoliad 4 (hysbysu am ganlyniadau cadarnhaol) wedi ei hepgor.
(5) Yn lle paragraff (4) o reoliad 5 (gorfodi) rhodder y canlynol —
“(4) Y gofynion yw'r rhai a bennir yn —
(a)Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â'r amodau y caniateir i gynhyrchion penodedig gael eu rhoi ar y farchnad odanynt, y rheolaethau swyddogol sydd i'w cyflawni a'r mesurau sydd i'w cymryd parthed llwythi nad ydynt yn cydymffurfio); a
(b) brawddeg gyntaf Erthygl 7 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â rheoli rhannu llwythi).”.
(6) Ym mharagraff (b) o reoliad 6 (cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990), yn lle “rhoi gyntaf ar y farchnad” rhodder “rhoi ar y farchnad”.
(7) Mewnosoder y rheoliadau canlynol yn union ar ôl rheoliad 6 —
7. Bydd treuliau a godir gan awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd ar weithredwr yn unol ag Erthygl 8 o Benderfyniad y Comisiwn yn daladwy gan y gweithredwr ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod.
8. Nid yw'r gwaharddiad yn rheoliad 3(1) yn gymwys mewn perthynas â unrhyw gynnyrch penodedig a adawodd Tsieina cyn 1 Chwefror 2012 ar yr amod —
(a)bod y gwaith samplu a dadansoddi wedi ei wneud yn unol ag Erthygl 4(3) o Benderfyniad y Comisiwn; a
(b)na fyddai rhoi'r cynnyrch ar y farchnad wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fel yr oeddent yn sefyll yn union cyn i Reoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2012 ddod i rym.”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 12 Ionawr 2012, yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1080 (Cy.114)) (“Rheoliadau 2008”) er mwyn rhoi ar waith Benderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/884/EU ar fesurau brys ynghylch reis sydd wedi ei addasu'n enetig heb awdurdod mewn cynhyrchion reis sy'n tarddu o Tsieina a hwnnw'n Benderfyniad sy'n diddymu Penderfyniad 2008/289/EC (OJ Rhif L343, 23.12.2011, t.140) (“Penderfyniad y Comisiwn”). Mae Penderfyniad y Comisiwn yn darparu i gyfyngiadau ar fewnforio a oedd gynt yn gymwys i reis Bt 63 a addaswyd yn enetig fod yn gymwys, gydag addasiadau, i'r holl reis a addaswyd yn enetig heb awdurdod.
Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2008 drwy —
(a)mewnosod yn rheoliad 2 ddiffiniad o Benderfyniad y Comisiwn a diwygio, ychwanegu neu ddileu diffiniadau penodol eraill (rheoliad 2(2));
(b)diwygio rheoliad 3(1), drwy osod amodau y caniateir i gynhyrchion penodedig (reis a chynhyrchion reis sy'n tarddu o Tsieina neu a anfonwyd oddi yno) gael eu rhoi ar y farchnad odanynt (rheoliad 2(3));
(c)hepgor rheoliad 4, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd am ganlyniadau profion penodol (rheoliad 2(4));
(ch)diwygio rheoliad 5(4), sy'n nodi'r darpariaethau ym Mhenderfyniad y Comisiwn y mae'n rhaid i swyddog gorfodi awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd sicrhau y cydymffurfir â hwy (rheoliad 2(5));
(d)mewnosod fel rheoliad 7 newydd ddarpariaeth i roi ar waith y gofyniad yn Erthygl 8 o Benderfyniad y Comisiwn bod rhaid i'r holl gostau sy'n ganlyniad i'r rheolaethau swyddogol ac i unrhyw fethiant â chydymffurfio gael eu hysgwyddo gan y gweithredwr busnes bwyd neu fusnes bwyd anifeiliaid o dan sylw (rheoliad 2(7)), ac
(dd)mewnosod fel rheoliad 8 newydd ddarpariaeth sy'n rhoi ar waith y trefniadau trosiannol a gynhwysir yn Erthygl 9 o Benderfyniad y Comisiwn (rheoliad 2(7)).
Mae asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei baratoi ac fe'i cyhoeddir cyn gynted ag y bydd wedi ei gwblhau. Oherwydd natur brys yr offeryn hwn, nid oedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gallu cwblhau'r asesiad effaith rheoleiddiol cyn i'r offeryn ddod i rym.
Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2005 (O.S. 2005/1971) yw'r gorchymyn dynodi perthnasol. Dynododd erthygl 4 o'r Gorchymyn hwnnw Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) (“y Cynulliad”) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â'r materion a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwnnw sy'n cynnwys mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu y porthir hwy ag ef. Mae swyddogaethau sy'n arferadwy gan y Cynulliad o dan y Gorchymyn hwnnw wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30(2)(b) o Atodlen 11 iddi.
OJ Rhif L343, 23.12.2011, t.140.