Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2012
Enwi a chychwyn1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 12 Ionawr 2012.
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 20082.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2 (dehongli) —
(a)
ym mharagraff (1)—
(i)
“ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/884/EU ar fesurau brys ynghylch reis a addaswyd yn enetig heb awdurdod mewn cynhyrchion reis sy'n tarddu o Tsieina a hwnnw'n Benderfyniad sy'n diddymu Penderfyniad 2008/289/EC4;”;
(ii)
hepgorer y diffiniad o “rhoi gyntaf ar y farchnad”;
(iii)
“mae i “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002;”, a
(iv)
yn y diffiniad o “cynnyrch penodedig”, yn lle “yr Atodiad” rhodder “Atodiad I”; a
(b)
“(3)
Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir ym Mhenderfyniad y Comisiwn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ystyr sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw ym Mhenderfyniad y Comisiwn.”.
(3)
“Cyfyngiad ar roi cynhyrchion penodedig ar y farchnad3.
(1)
Gwaherddir rhoi unrhyw gynnyrch penodedig ar y farchnad—
(a)
oni chydymffurfiwyd ag amodau a bennir yn Erthygl 4 o Benderfyniad y Comisiwn mewn perthynas â'r cynnyrch; a
(b)
oni bai bod llwyth y cynnyrch penodedig wedi ei rannu yn dilyn rheolaeth swyddogol, a bod copi dilysedig o'r dystysgrif iechyd a'r adroddiad dadansoddiadol yn dod gyda phob rhan o'r llwyth rhanedig.”.
(4)
Mae rheoliad 4 (hysbysu am ganlyniadau cadarnhaol) wedi ei hepgor.
(5)
“(4)
Y gofynion yw'r rhai a bennir yn —
(a)
Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â'r amodau y caniateir i gynhyrchion penodedig gael eu rhoi ar y farchnad odanynt, y rheolaethau swyddogol sydd i'w cyflawni a'r mesurau sydd i'w cymryd parthed llwythi nad ydynt yn cydymffurfio); a
(b)
brawddeg gyntaf Erthygl 7 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â rheoli rhannu llwythi).”.
(6)
Ym mharagraff (b) o reoliad 6 (cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990), yn lle “rhoi gyntaf ar y farchnad” rhodder “rhoi ar y farchnad”.
(7)
“Treuliau sy'n deillio o reolaethau swyddogol7.
Bydd treuliau a godir gan awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd ar weithredwr yn unol ag Erthygl 8 o Benderfyniad y Comisiwn yn daladwy gan y gweithredwr ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod.
Darpariaeth drosiannol8.
Nid yw'r gwaharddiad yn rheoliad 3(1) yn gymwys mewn perthynas â unrhyw gynnyrch penodedig a adawodd Tsieina cyn 1 Chwefror 2012 ar yr amod —
(a)
bod y gwaith samplu a dadansoddi wedi ei wneud yn unol ag Erthygl 4(3) o Benderfyniad y Comisiwn; a
(b)
na fyddai rhoi'r cynnyrch ar y farchnad wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fel yr oeddent yn sefyll yn union cyn i Reoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2012 ddod i rym.”.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 12 Ionawr 2012, yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1080 (Cy.114)) (“Rheoliadau 2008”) er mwyn rhoi ar waith Benderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/884/EU ar fesurau brys ynghylch reis sydd wedi ei addasu'n enetig heb awdurdod mewn cynhyrchion reis sy'n tarddu o Tsieina a hwnnw'n Benderfyniad sy'n diddymu Penderfyniad 2008/289/EC (OJ Rhif L343, 23.12.2011, t.140) (“Penderfyniad y Comisiwn”). Mae Penderfyniad y Comisiwn yn darparu i gyfyngiadau ar fewnforio a oedd gynt yn gymwys i reis Bt 63 a addaswyd yn enetig fod yn gymwys, gydag addasiadau, i'r holl reis a addaswyd yn enetig heb awdurdod.
Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2008 drwy —
mewnosod yn rheoliad 2 ddiffiniad o Benderfyniad y Comisiwn a diwygio, ychwanegu neu ddileu diffiniadau penodol eraill (rheoliad 2(2));
diwygio rheoliad 3(1), drwy osod amodau y caniateir i gynhyrchion penodedig (reis a chynhyrchion reis sy'n tarddu o Tsieina neu a anfonwyd oddi yno) gael eu rhoi ar y farchnad odanynt (rheoliad 2(3));
hepgor rheoliad 4, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd am ganlyniadau profion penodol (rheoliad 2(4));
diwygio rheoliad 5(4), sy'n nodi'r darpariaethau ym Mhenderfyniad y Comisiwn y mae'n rhaid i swyddog gorfodi awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd sicrhau y cydymffurfir â hwy (rheoliad 2(5));
mewnosod fel rheoliad 7 newydd ddarpariaeth i roi ar waith y gofyniad yn Erthygl 8 o Benderfyniad y Comisiwn bod rhaid i'r holl gostau sy'n ganlyniad i'r rheolaethau swyddogol ac i unrhyw fethiant â chydymffurfio gael eu hysgwyddo gan y gweithredwr busnes bwyd neu fusnes bwyd anifeiliaid o dan sylw (rheoliad 2(7)), ac
mewnosod fel rheoliad 8 newydd ddarpariaeth sy'n rhoi ar waith y trefniadau trosiannol a gynhwysir yn Erthygl 9 o Benderfyniad y Comisiwn (rheoliad 2(7)).
Mae asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei baratoi ac fe'i cyhoeddir cyn gynted ag y bydd wedi ei gwblhau. Oherwydd natur brys yr offeryn hwn, nid oedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gallu cwblhau'r asesiad effaith rheoleiddiol cyn i'r offeryn ddod i rym.