(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu, yn effeithiol o 1 Ebrill 2012, y gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg y sefydliad addysgol a elwir yn Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo'i heiddo, ei hawliau a'i rhwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo, ac yn diogelu hawliau ei gweithwyr drwy gymhwyso, gydag addasiad, adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).