(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu adran 28 o Ddeddf Gwella'r Fenni 1854 (p.49) (“Deddf 1854”) ac mae'n dod i rym ar 26 Mawrth 2012.

Mae Deddf 1854 i'w darllen ar y cyd â Deddf Gwella'r Fenni 1860 (p.137) a Deddf Gwella'r Fenni 1871 (p.92) (gweler adran 2 o'r Ddeddf olaf).

Rhoddodd adran 28 o Ddeddf 1854 swyddogaethau i'r rhai a oedd yn Gomisiynwyr y Fenni ar yr adeg honno i adeiladu marchnad wartheg a lladd-dai o fewn ardal a ddiffiniwyd yn y Fenni ac i gasglu tollau. Mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Gyngor Sir Fynwy.

Mae adran 26 o Ddeddf 1854 yn ymgorffori mwyafrif darpariaethau Deddf Cymalau Marchnadoedd a Ffeiriau 1847 (p.14) ac mae amryw o'r darpariaethau hynny yn cael effaith mewn perthynas ag adran 28 o Ddeddf 1854.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu adran 28 o Ddeddf 1854 gan gynnwys y graddau y mae adran 26 o Ddeddf 1854 yn effeithio ar adran 28.

Y sail dros wneud y Gorchymyn yw bod y ddarpariaeth a ddiddymwyd yn anarferedig, yn ddianghenraid ac wedi ei disodli. Mae Deddf Bwyd 1984 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â sefydlu a gweithredu marchnadoedd da byw ac mae'n gymwys i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol ynghylch y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.