(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rheoli gweithgaredd hysbysebu a gweithgaredd masnachu yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, ac o'i amgylch (y “parth digwyddiadau”) yn ystod y cyfnodau pan fydd digwyddiadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn cael eu cynnal (“cyfnod digwyddiad”).

Mae'r Rheoliadau wedi eu gwneud o dan adrannau 19, 20(1), 22(8), 25, 26(1) a 28(6) o Ddeddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006 (“y Ddeddf”). Mae adran 21(1) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn dramgwydd torri rheoliadau hysbysebu sydd wedi eu gwneud o dan adran 19 o'r Ddeddf honno, ac mae adran 27 o'r Ddeddf yn darparu ei bod yn dramgwydd torri rheoliadau masnachu sydd wedi eu gwneud o dan adran 25 o'r Ddeddf honno.

Darpariaethau cyffredinol sydd yn Rhan 1 o'r Rheoliadau.

Mae un parth digwyddiadau yng Nghymru, sef parth Stadiwm y Mileniwm, a ddiffinnir yn rheoliad 3 drwy gyfeirio at y map sydd ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. Mae rheoliad 3 hefyd yn diffinio cyfnod digwyddiad.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau manwl sy'n ymwneud â gweithgaredd hysbysebu yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad.

Mae rheoliad 5(1) yn diffinio “gweithgaredd hysbysebu” i olygu arddangos hysbyseb neu ddosbarthu neu ddarparu deunydd hyrwyddo. Mae “hysbyseb”, “arddangos hysbyseb” a “deunydd hyrwyddo” wedi eu diffinio yn yr un rheoliad. Mae darpariaeth benodol wedi ei gwneud yn rheoliad 5(3) ar gyfer hysbysebion sy'n cael eu harddangos ar ffonau symudol a dyfeisiau tebyg eraill.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer gwaharddiad ar hysbysebu ac yn pennu pobl sydd i'w trin fel rhai sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer ymhel â gweithgaredd hysbysebu.

O dan adran 21(2) o'r Ddeddf, mae'n amddiffyniad i berson a gyhuddir o dramgwydd o dan adran 21(1) o'r Ddeddf os yw'n profi bod y toriad wedi digwydd heb iddo wybod hynny neu er gwaethaf y ffaith ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i'w atal rhag digwydd neu (pan ddaeth yn ymwybodol ohono ar ôl iddo gychwyn) rhag parhau.

Yn ychwanegol at yr amddiffyniad hwn, mae rheoliadau 7 i 10 yn pennu eithriadau i'r gwaharddiad ar hysbysebu.

Mae'r eithriadau yn rheoliad 9 wedi eu gwneud ar lun darpariaethau yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

Yn ogystal â'r eithriadau a bennir yn rheoliadau 7 i 10, mae rheoliad 11 yn darparu na fydd y gwaharddiad ar hysbysebu'n gymwys i weithgaredd hysbysebu yr ymgymerir â hwy neu a reolir gan y “London Organising Committee of the Olympic Games and Paralympic Games Limited” (“LOCOG”), neu berson a awdurdodir gan LOCOG.

Mae hawl LOCOG i ymhel â gweithgaredd hysbysebu ac unrhyw awdurdodiad a roddir ganddo yn ddarostyngedig i'r amodau a bennir yn rheoliad 11(4), gan gynnwys bod yr hysbysebwr yn dal trwydded y mae'n ofynnol ei chael, yn ychwanegol at awdurdodiad o dan reoliad 11, cyn y caiff y person hwnnw ymhel â gweithgaredd hysbysebu (p'un ai mewn man penodol neu'n gyffredinol).

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau manwl sy'n ymwneud â gweithgaredd masnachu yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad.

Mae rheoliad 12 yn diffinio “gweithgaredd masnachu” i olygu cyflawni un neu fwy o'r gweithgareddau a bennir yn y rheoliad hwnnw mewn man cyhoeddus agored.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer gwaharddiad ar fasnachu ac yn pennu pobl sydd i'w trin fel rhai sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer ymhel â gweithgaredd masnachu.

Mae rheoliad 14 yn pennu eithriadau i'r gwaharddiad ar hysbysebu.

Yn ychwanegol at yr eithriadau a bennir yn rheoliad 14, mae rheoliad 15 yn darparu na fydd y gwaharddiad ar fasnachu yn gymwys i weithgaredd masnachu yr ymgymerir ag ef yn unol ag awdurdodiad a roddwyd gan Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd (“ODA”) neu berson y mae swyddogaeth rhoi awdurdodiadau wedi ei dirprwyo iddo gan ODA.

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth i berson sydd wedi gwneud cais am awdurdodiad ac sy'n anfodlon ar benderfyniad yr awdurdodwr, ofyn i ODA adolygu'r penderfyniad hwnnw.

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer iawndal i berson y mae ei eiddo wedi ei ddifrodi yn ystod arfer neu arfer honedig o bŵer gorfodi o dan adran 22 neu 28 o Ddeddf 2006.