2012 Rhif 60 (Cy.14)
Y GEMAU OLYMPAIDD A'R GEMAU PARALYMPAIDD, CYMRU

Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 19, 20(1), 22(8), 25, 26(1) a 28(6) o Ddeddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 20061 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol â'r gofynion a nodir yn adrannau 20(3) a 26(3) ac wedi rhoi sylw i'r materion y cyfeirir atynt yn adrannau 19(2) a 25(2) o'r Ddeddf honno.

Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adrannau 20(2) a 26(2) o'r Ddeddf honno3.