2012 Rhif 59 (Cy.13)
Y GYMRAEG, CYMRU

Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 23(4) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 20111 a pharagraff 5 o Atodlen 4 iddo, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 6 Chwefror 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Yr egwyddorion i'w dilyn2.

Wrth benodi aelodau o'r Panel Cynghori rhaid i Weinidogion Cymru ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb gweinidogion, teilyngdod, craffu annibynnol, cyfle cyfartal, uniondeb, didwylledd a thryloywder, a chymesuredd gan gymryd i ystyriaeth y disgrifiad o'r egwyddorion hynny yng Nghod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Gyhoeddus dyddiedig Awst 2009.

Gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi3.

Wrth benodi personau yn aelodau o'r Panel Cynghori rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol bod aelodaeth y Panel Cynghori yn cynnwys personau sydd â gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi.

Gwybodaeth a phrofiad4.

(1)

Cyn penodi personau yn aelodau o'r Panel Cynghori rhaid i Weinidogion Cymru, i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol, ganfod gwybodaeth a phrofiad y Comisiynydd o'r materion canlynol—

(a)

llywodraethu corfforaethol;

(b)

arfer swyddogaethau sydd wedi'i rhoi gan neu o dan ddeddfiad;

(c)

hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg neu iaith arall;

(ch)

cysylltiadau cyhoeddus;

(d)

cyfundrefnau rheoleiddiol; a

(dd)

gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus, neu wirfoddol.

(2)

Wrth benodi personau yn aelodau o'r Panel Cynghori rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol bod gwybodaeth a phrofiad y Comisiynydd ac aelodau'r Panel Cynghori (gyda'i gilydd) yn cynnwys gwybodaeth a phrofiad o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn darparu ar gyfer creu swydd Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”). Bydd panel o gynghorwyr yn cefnogi'r Comisiynydd yn ei waith. Mae adran 23 o'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i benodi aelodau'r panel cynghori hwn ac yn esbonio bod y panel hwn i'w alw'n Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (“y Panel Cynghori”).

Mae paragraff 1 o Atodlen 4 i'r Mesur yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rheoliadau penodi wrth benodi aelodau'r Panel Cynghori.

Mae paragraff 5(1) o'r Atodlen honno yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau penodi.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn i gydymffurfio â'u dyletswydd i wneud rheoliadau penodi.

Mae rheoliad 2 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, wrth benodi aelodau'r Panel Cynghori, i ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb gweinidogion, teilyngdod, craffu annibynnol, cyfle cyfartal, uniondeb, didwylledd a thryloywder, a chymesuredd gan gymryd i ystyriaeth y disgrifiad o'r egwyddorion hynny a nodir yng Nghod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Gyhoeddus dyddiedig Awst 2009. Gellir cael copi o'r Cod Ymarfer dyddiedig Awst 2009 ar wefan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus: www.publicappointmentscommissioner.org/

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth benodi aelodau'r Panel Cynghori, i roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol i aelodaeth y Panel Cynghori gynnwys personau â gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth sy'n gysylltiedig â gwybodaeth a phrofiad aelodau'r Panel Cynghori o'r materion hynny y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau yn eu cylch.

Mae rheoliad 4(1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru cyn iddynt benodi aelodau'r Panel Cynghori i ganfod, i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol, wybodaeth a phrofiad y Comisiynydd o'r materion canlynol: llywodraethu corfforaethol, arfer swyddogaethau sydd wedi eu rhoi gan neu o dan ddeddfiad, hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg neu unrhyw iaith arall, cysylltiadau cyhoeddus, cyfundrefnau rheoleiddiol, a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol.

Mae rheoliad 4(2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wrth iddynt benodi aelodau'r Panel Cynghori i roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol i wybodaeth a phrofiad y Comisiynydd ac aelodau'r Panel Cynghori, gyda'i gilydd, gynnwys gwybodaeth a phrofiad o'r materion canlynol: llywodraethu corfforaethol, arfer swyddogaethau sydd wedi eu rhoi gan neu o dan ddeddfiad, hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg neu unrhyw iaith arall, cysylltiadau cyhoeddus, cyfundrefnau rheoleiddiol, a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol.

Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.