Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn darparu ar gyfer creu swydd Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”). Bydd panel o gynghorwyr yn cefnogi'r Comisiynydd yn ei waith. Mae adran 23 o'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i benodi aelodau'r panel cynghori hwn ac yn esbonio bod y panel hwn i'w alw'n Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (“y Panel Cynghori”).

Mae paragraff 1 o Atodlen 4 i'r Mesur yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rheoliadau penodi wrth benodi aelodau'r Panel Cynghori.

Mae paragraff 5(1) o'r Atodlen honno yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau penodi.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn i gydymffurfio â'u dyletswydd i wneud rheoliadau penodi.

Mae rheoliad 2 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, wrth benodi aelodau'r Panel Cynghori, i ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb gweinidogion, teilyngdod, craffu annibynnol, cyfle cyfartal, uniondeb, didwylledd a thryloywder, a chymesuredd gan gymryd i ystyriaeth y disgrifiad o'r egwyddorion hynny a nodir yng Nghod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Gyhoeddus dyddiedig Awst 2009. Gellir cael copi o'r Cod Ymarfer dyddiedig Awst 2009 ar wefan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus: www.publicappointmentscommissioner.org/

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth benodi aelodau'r Panel Cynghori, i roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol i aelodaeth y Panel Cynghori gynnwys personau â gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth sy'n gysylltiedig â gwybodaeth a phrofiad aelodau'r Panel Cynghori o'r materion hynny y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau yn eu cylch.

Mae rheoliad 4(1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru cyn iddynt benodi aelodau'r Panel Cynghori i ganfod, i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol, wybodaeth a phrofiad y Comisiynydd o'r materion canlynol: llywodraethu corfforaethol, arfer swyddogaethau sydd wedi eu rhoi gan neu o dan ddeddfiad, hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg neu unrhyw iaith arall, cysylltiadau cyhoeddus, cyfundrefnau rheoleiddiol, a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol.

Mae rheoliad 4(2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wrth iddynt benodi aelodau'r Panel Cynghori i roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol i wybodaeth a phrofiad y Comisiynydd ac aelodau'r Panel Cynghori, gyda'i gilydd, gynnwys gwybodaeth a phrofiad o'r materion canlynol: llywodraethu corfforaethol, arfer swyddogaethau sydd wedi eu rhoi gan neu o dan ddeddfiad, hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg neu unrhyw iaith arall, cysylltiadau cyhoeddus, cyfundrefnau rheoleiddiol, a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol.

Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.