Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (O.S. 1993/252) (“Rheoliadau 1993”) yn darparu ar gyfer cynnwys yr hysbysiadau galw am dalu ardrethi, sy'n cael eu dyroddi gan awdurdodau bilio (cynghorau sirol a bwrdeistrefol) yng Nghymru, a'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chyflenwi pan fo'r hysbysiadau hynny'n cael eu cyflwyno gan yr awdurdodau hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau 1993 drwy ddiwygio'r wybodaeth sydd i'w chyflenwi.

Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ardrethi sydd i'w talu ar ôl 31 Mawrth 2012 yn unig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.