Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 16 Mawrth 2012.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) drwy estyn y ddarpariaeth ar gyfer cynnydd yn lefel y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i 31 Mawrth 2013. Dim ond i gategorïau penodol o drethdalwr, y mae Gorchymyn 2008 yn eu cwmpasu, y mae'r estyniad o'r rhyddhad yn gymwys.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiad hefyd sy'n ganlyniad i basio Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol ynghylch y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.