2012 Rhif 465 (Cy.76)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2:

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2012.

(2)

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 16 Mawrth 2012.

Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 20082.

(1)

Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 20083 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn erthygl 7(ch) yn lle “30 Medi 2012” rhodder “31 Mawrth 2013”.

(3)

Yn erthygl 11(d) yn lle “30 Medi 2012” rhodder “31 Mawrth 2013”.

(4)

Yn erthygl 11(dd) yn lle “30 Medi 2012” rhodder “31 Mawrth 2013”.

(5)

Ym mhennawd erthygl 11A (y swm o E rhwng 1 Hydref 2010 a 30 Medi 2012) yn lle “30 Medi 2012” rhodder “31 Mawrth 2013”.

(6)

Yn erthygl 11A(2) yn lle “30 Medi 2012” rhodder “31 Mawrth 2013”.

(7)

Yn erthygl 11A(7)(b)(i) yn lle “Rhan XA o Ddeddf Plant 1989” rhodder “Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010”.

Edwina Hart
Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 16 Mawrth 2012.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) drwy estyn y ddarpariaeth ar gyfer cynnydd yn lefel y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i 31 Mawrth 2013. Dim ond i gategorïau penodol o drethdalwr, y mae Gorchymyn 2008 yn eu cwmpasu, y mae'r estyniad o'r rhyddhad yn gymwys.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiad hefyd sy'n ganlyniad i basio Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol ynghylch y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.