Offerynnau Statudol Cymru
Y GYMRAEG, CYMRU
Gwnaed
9 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012.
2. Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 10 Ionawr 2012—
(a)adran 23(4);
(b)paragraffau 1, 5, 10 ac 11 o Atodlen 4, ac adran 23(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
9 Ionawr 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae'n dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn y Mesur sy'n ymwneud â phenodi aelodau o Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg gan Weinidogion Cymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
| Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| adran 2(2) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
| adran 2(3) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
| adrannau 138 a 139 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
| adran 146 (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
| Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
| Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |