Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn mewn achosion gerbron Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch arfer awdurdodaeth y Tribiwnlys o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 sy'n ymwneud ag apelau anghenion addysgol arbennig, a Phennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy'n ymwneud â hawliadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn perthynas â disgyblion ysgol.
Mae Rhan A yn cynnwys darpariaethau cyffredinol sy'n cynnwys dirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chyfansoddiad y Tribiwnlys.
Mae Rhan B yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chychwyn achosion, paratoi achosion, gwrandawiadau, penderfyniadau'r Tribiwnlys, ac adolygiadau ac apelau yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys. Mae'n gwneud darpariaeth hefyd ynglŷn â gorchmynion Tribiwnlys, y terfynau amser ar gydymffurfiaeth awdurdodau lleol â gorchmynion o'r fath, a'r terfynau amser ar gyfer camau penodedig sydd i'w cymryd gan awdurdodau lleol ar ôl iddynt ildio rhai apelau a wneir i'r Tribiwnlys.
Mae Rhan C yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag apelwyr neu hawlwyr sy'n blant. Mae'n pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn a'r darpariaethau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff person weithredu fel cyfaill achos i blentyn.
Mae Rhan CH yn cynnwys darpariaethau amrywiol sy'n gymwys i achosion gerbron y Tribiwnlys.