- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
8 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Chwefror 2012
Yn dod i rym
6 Mawrth 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012 a deuant i rym ar 6 Mawrth 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2015.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cyfnod treialu” (“pilot period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 6 Mawrth 2012 ac yn dod i ben ar ddiwedd 30 Mehefin 2015;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);
ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010(3); ac
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.
3. At ddibenion adran 17(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009, awdurdodau lleol penodedig yw Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac ardaloedd penodedig yw eu hardaloedd.
4. Yn ystod y cyfnod treialu—
(a)ni chaiff plentyn apelio i'r Tribiwnlys yn unol ag adran 322ZA o Ddeddf 1996 ond os yw awdurdod lleol penodedig yn gyfrifol am y plentyn;
(b)ni chaiff person wneud hawliad i'r Tribiwnlys yn unol â pharagraff 3A o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 bod corff sy'n gyfrifol am ysgol wedi mynd yn groes i Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010 ond os yw'r ysgol mewn ardal benodedig;
(c)nid yw'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan adrannau 332ZB, 332AA, 332BA a 332BB o Ddeddf 1996 yn gymwys ond i'r awdurdodau lleol penodedig; ac
(ch)nid yw'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan baragraffau 6B, 6C a 6D o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 yn gymwys ond i'r awdurdodau lleol penodedig.
5. Rhaid i'r Tribiwnlys, awdurdod lleol penodedig a chorff sy'n gyfrifol am ysgol mewn ardal benodedig, cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl cael cais, roi unrhyw wybodaeth i Weinidogion Cymru y maent yn gofyn amdani er mwyn asesu, monitro a gwerthuso gweithrediad y darpariaethau sy'n cael eu treialu.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Chwefror 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn a wnaed o dan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”) yn dod i rym ar 6 Mawrth 2012.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i dreialu darpariaethau Deddf Addysg 1996 a Deddf Cydraddoldeb 2010 fel y'u diwygiwyd gan Ran 1 o Fesur 2009.
Effaith y Rheoliadau hyn, o'u cymryd ynghyd â'r darpariaethau yn y Gorchymyn Cychwyn sy'n dod â Rhan 1 o Fesur 2009 i rym ar 6 Mawrth 2012, yw na fydd y darpariaethau hynny yn gymwys ond at ddibenion treialu yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Wrecsam. Pan fydd y Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith bydd y darpariaethau yn Rhan 1 o Fesur 2009 yn gymwys yn awtomatig i Gymru gyfan.
Mae rheoliad 2 yn diffinio'r cyfnod treialu.
Mae rheoliad 3 yn pennu mai Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'u priod ardaloedd fydd yn treialu'r dyletswyddau a'r hawliau newydd.
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth am yr hawl i wneud apêl anghenion addysgol arbennig neu wneud hawliad am wahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (“y Tribiwnlys”) yn ystod y cyfnod treialu ac mae'n pennu'r dyletswyddau a osodir ar Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod y cyfnod treialu.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru wneud cais am wybodaeth oddi wrth y Tribiwnlys, neu Gyngor Sir Caerfyrddin, neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, neu gorff sy'n gyfrifol am ysgol yn Sir Gaerfyrddin neu Wrecsam.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: