Search Legislation

Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

2.—(1Yn y Cynllun hwn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli'n unol â hynny;

ystyr “cwch pysgota Cymreig cymwys” (“eligible Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—

(a)

sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (1); a

(b)

sydd â'i borthladd gweinyddu yng Nghymru ar y dyddiad y gwneir y cais am grant;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2);

ystyr “y dyddiad cau” (“the closing date”) yw'r dyddiad hwnnw y dichon Gweinidogion Cymru ei bennu a'i gyhoeddi o bryd i'w gilydd fel y dyddiad y mae'n rhaid cyflwyno cais am grant arno neu o'i flaen;

ystyr “grant” (“grant”) yw grant o dan y Cynllun hwn;

ystyr “meistr (“master”) yw'r person sydd, ar y pryd, yn gyfrifol am y cwch pysgota Cymreig cymwys;

ystyr “porthladd gweinyddu” (“port of administration”) mewn perthynas â chwch pysgota yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir mewn cysylltiad â'r cwch hwnnw o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(3);

ystyr “y Rheoliad Gweithredu” (“the Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu y Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 ar 8 Ebrill 2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin(4),fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd; ac

ystyr “y Rheoliad Rheoli” (“the Control Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/2006(5), fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

(2Ystyr unrhyw rwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yw rhwymedigaeth i beri bod y deunydd hwnnw ar gael mewn modd a fydd yn sicrhau ei bod yn weddol debygol y bydd y rheini sy'n gymwys am grant yn ei weld.

(4)

OJ Rhif L 112, 30.4.2011.

(5)

OJ Rhif L 343, 22.12.2009.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources