Search Legislation

Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 4Adolygu dyfarniad a lleihau, dal yn ôl neu adennill taliadau

Adolygu dyfarniad

18.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan baragraffau 7(1)(b) neu (2) neu o dan baragraffau 15(1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan baragraff 7(1)(a) neu o dan baragraff 15(1)(a), caiff y person a ymgeisiodd am y grant wneud cais i Weinidogion Cymru, yn unol â darpariaethau'r paragraff hwn, am adolygiad o'r dyfarniad hwnnw.

(2Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn gyrraedd Gweinidogion Cymru ar ddyddiad nad yw'n ddiweddarach na 6 mis ar ôl dyddiad y dyfarniad perthnasol o dan baragraffau 7(1) neu 15(1).

(3Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo nodi—

(a)enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad ac ar ba sail y mae'r person yn ceisio adolygiad;

(b)pa ddyfarniad gan Weinidogion Cymru sydd i'w adolygu a dyddiad y dyfarniad hwnnw;

(c)manylion o'r seiliau y ceisir yr adolygiad arnynt; a

(d)yn newid a geisir yn y dyfarniad.

(4Caniateir gwneud cais o dan y paragraff hwn drwy'r post neu drwy ffacs neu ddull cyfathrebu electronig arall sy'n caniatáu atgynhyrchu.

(5Pan wneir cais o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dyfarniad a nodir ynddo, dod i benderfyniad terfynol arno a hysbysu'r person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto, mewn ysgrifen.

(6Wrth adolygu dyfarniad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a gyflwynwyd gan y ceisydd (pa un a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael ai peidio ar yr adeg y gwnaed y dyfarniad);

(b)gwahodd y ceisydd i ddarparu pa bynnag wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad ac a ystyrir yn briodol ganddynt ; ac

(c)rhoi cyfle i'r ceisydd roi tystiolaeth a gwneud sylwadau yn bersonol neu drwy gynrychiolydd.

Dirymu, dal yn ôl neu adennill grant

19.—(1Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg wedi iddynt gymeradwyo cais o dan baragraff 7(1) neu o dan baragraff 15(1)—

(a)bod unrhyw amod a osodwyd o dan y paragraff hwnnw wedi ei dorri neu nad oes cydymffurfiad ag ef; neu

(b)bod y ceisydd wedi cyflawni trosedd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 neu y dichon ei fod wedi gwneud hynny(1),

cânt ddirymu'r gymeradwyaeth i'r cais hwnnw, neu ddal y grant neu unrhyw ran ohono yn ôl mewn perthynas â'r cais, ac os gwnaed unrhyw daliad grant, cânt adennill oddi wrth y ceisydd drwy hawliad, swm sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad a wnaed felly, pa un a wnaed y taliad grant yn uniongyrchol i'r ceisydd, ynteu i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd yn rhinwedd paragraffau 8(2)(a) neu 16(2)(a).

(2Cyn dirymu cymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw grant neu wneud hawliad yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi eglurhad ysgrifenedig i'r ceisydd o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;

(b)rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru; ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.

Llog

20.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu adennill swm ar gais yn unol â pharagraff 19(1)(b), cânt, yn ychwanegol, adennill llog ar y swm hwnnw ar gyfradd o 1% uwchben LIBOR wedi'i gyfrifo yn ddyddiol am y cyfnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd y swm arno ac sy'n gorffen ar y diwrnod yr adenillir y swm arno.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “LIBOR” (“LIBOR”), mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau ac sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw wedi ei thalgrynnu, os oes angen, i ddau bwynt degol.

(3Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ac yn datgan y LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddiwrthbrawf o'r LIBOR o dan sylw, os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r LIBOR o dan sylw.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources