RHAN 3Grant ar gyfer meddalwedd gymeradwy

Dehongli Rhan 310

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “cyflenwr cymeradwy”(“approved supplier”) yw cyflenwr a bennwyd mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 11(1) mewn perthynas â'r feddalwedd gymeradwy;

  • ystyr “data gweithgareddau pysgota” (“fishing activities data”) yw'r data llyfr log, data datganiad trawslwytho a'r data datganiad glanio y mae'n ofynnol, o dan y Rheoliad Rheoli, eu cofnodi a'u darlledu drwy ddull electronig; ac

  • ystyr “meddalwedd gymeradwy” (“approved software”) yw meddalwedd a bennwyd mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 11(1).

Cyflenwyr meddalwedd cymeradwy11

1

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr sy'n pennu—

a

meddalwedd sy'n gallu—

i

cofnodi data gweithgareddau pysgota'n electronig; a

ii

darlledu data gweithgareddau pysgota'n electronig yn y ffurf ofynnol; a

b

cyflenwyr y feddalwedd honno.

2

Yn y paragraff hwn, ystyr “y ffurf ofynnol” (“required format”) yw ffurf a bennir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliad Rheoli.

Gwahoddiad i geisio am grant12

1

Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant ar gyfer meddalwedd gymeradwy.

2

Rhaid i wahoddiad gynnwys—

a

manylion o'r feddalwedd gymeradwy a chyflenwyr cymeradwy;

b

manylion o'r amodau cymhwystra am grant;

c

gofynion o ran ffurf y cais a'r dull o'i wneud;

d

unrhyw ofynion o ran darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymrwymiadau i gefnogi'r cais;

e

y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais; ac

f

unrhyw wybodaeth arall a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn berthnasol i'r cais.

Cymhwystra ar gyfer gwneud cais13

Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant ar gyfer meddalwedd gymeradwy, os yw'r person hwnnw—

a

yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a

b

wedi prynu meddalwedd gymeradwy gan gyflenwr cymeradwy, neu wedi comisiynu cyflenwr cymeradwy i gyflenwi meddalwedd gymeradwy, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.

Ceisiadau14

1

Rhaid i gais am grant gael ei wneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 12(1).

2

Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i gais fod wedi cyrraedd Gweinidogion Cymru ar y dyddiad cau neu cyn hynny.

3

Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os bodlonir hwy—

a

bod amgylchiadau penodol y ceisydd yn peri y byddai'n afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a

b

bod y dyddiad y gwnaed y cais cyn gynted ag y gellid disgwyl yn rhesymol.

4

Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol.

Dyfarnu ar geisiadau15

1

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 14(4), rhaid i Weinidogion Cymru—

a

nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau a ystyriant yn briodol, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 12(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a

b

gwrthod unrhyw geisiadau eraill.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.

3

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen, o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

4

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen—

a

o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros gymeradwyo yn ddarostyngedig i amodau; a

b

o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 18.

Talu grant16

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 15(1) ac wedi i Weinidogion Cymru gael eu bodloni—

a

bod y cyflenwr cymeradwy wedi cyflenwi'r feddalwedd gymeradwy i'r ceisydd a'r feddalwedd wedi ei gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;

b

bod y ceisydd wedi defnyddio'r feddalwedd gymeradwy yn llwyddiannus i gofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota yn unol â gofynion y Rheoliad Rheoli; ac

c

y cydymffurfiwyd ag unrhyw amod ar dalu'r grant, neu unrhyw ran ohono.

2

Caiff Gweinidogion Cymru—

a

talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd; a

b

talu'r grant ar y cyfryw adeg, neu drwy'r cyfryw randaliadau fesul y cyfryw ysbeidiau neu ar y cyfryw adegau, a bennir gan Weinidogion Cymru.

Swm y grant17

O ran swm y grant—

a

ni chaiff fod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r feddalwedd gymeradwy; a

b

caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.