Search Legislation

Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 3Grant ar gyfer meddalwedd gymeradwy

Dehongli Rhan 3

10.  Yn y Rhan hon—

ystyr “cyflenwr cymeradwy”(“approved supplier”) yw cyflenwr a bennwyd mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 11(1) mewn perthynas â'r feddalwedd gymeradwy;

ystyr “data gweithgareddau pysgota” (“fishing activities data”) yw'r data llyfr log, data datganiad trawslwytho a'r data datganiad glanio y mae'n ofynnol, o dan y Rheoliad Rheoli, eu cofnodi a'u darlledu drwy ddull electronig; ac

ystyr “meddalwedd gymeradwy” (“approved software”) yw meddalwedd a bennwyd mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 11(1).

Cyflenwyr meddalwedd cymeradwy

11.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr sy'n pennu—

(a)meddalwedd sy'n gallu—

(i)cofnodi data gweithgareddau pysgota'n electronig; a

(ii)darlledu data gweithgareddau pysgota'n electronig yn y ffurf ofynnol; a

(b)cyflenwyr y feddalwedd honno.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “y ffurf ofynnol” (“required format”) yw ffurf a bennir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliad Rheoli.

Gwahoddiad i geisio am grant

12.—(1Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant ar gyfer meddalwedd gymeradwy.

(2Rhaid i wahoddiad gynnwys—

(a)manylion o'r feddalwedd gymeradwy a chyflenwyr cymeradwy;

(b)manylion o'r amodau cymhwystra am grant;

(c)gofynion o ran ffurf y cais a'r dull o'i wneud;

(d)unrhyw ofynion o ran darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymrwymiadau i gefnogi'r cais;

(e)y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais; ac

(f)unrhyw wybodaeth arall a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn berthnasol i'r cais.

Cymhwystra ar gyfer gwneud cais

13.  Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant ar gyfer meddalwedd gymeradwy, os yw'r person hwnnw—

(a)yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a

(b)wedi prynu meddalwedd gymeradwy gan gyflenwr cymeradwy, neu wedi comisiynu cyflenwr cymeradwy i gyflenwi meddalwedd gymeradwy, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.

Ceisiadau

14.—(1Rhaid i gais am grant gael ei wneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 12(1).

(2Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i gais fod wedi cyrraedd Gweinidogion Cymru ar y dyddiad cau neu cyn hynny.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os bodlonir hwy—

(a)bod amgylchiadau penodol y ceisydd yn peri y byddai'n afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a

(b)bod y dyddiad y gwnaed y cais cyn gynted ag y gellid disgwyl yn rhesymol.

(4Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol.

Dyfarnu ar geisiadau

15.—(1Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 14(4), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau a ystyriant yn briodol, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 12(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a

(b)gwrthod unrhyw geisiadau eraill.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen, o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen—

(a)o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros gymeradwyo yn ddarostyngedig i amodau; a

(b)o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 18.

Talu grant

16.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 15(1) ac wedi i Weinidogion Cymru gael eu bodloni—

(a)bod y cyflenwr cymeradwy wedi cyflenwi'r feddalwedd gymeradwy i'r ceisydd a'r feddalwedd wedi ei gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;

(b)bod y ceisydd wedi defnyddio'r feddalwedd gymeradwy yn llwyddiannus i gofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota yn unol â gofynion y Rheoliad Rheoli; ac

(c)y cydymffurfiwyd ag unrhyw amod ar dalu'r grant, neu unrhyw ran ohono.

(2Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd; a

(b)talu'r grant ar y cyfryw adeg, neu drwy'r cyfryw randaliadau fesul y cyfryw ysbeidiau neu ar y cyfryw adegau, a bennir gan Weinidogion Cymru.

Swm y grant

17.  O ran swm y grant—

(a)ni chaiff fod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r feddalwedd gymeradwy; a

(b)caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources