RHAN 2Grant ar gyfer dyfeisiau olrhain drwy loeren

Dehongli Rhan 23

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “cyflenwr cymeradwy” (“approved supplier”) yw'r darparwr a gosodwr dyfeisiadau olrhain drwy loeren a ddetholwyd gan Weinidogion Cymru ac a gyhoeddwyd yn y gwahoddiad am geisiadau am grant yn unol â pharagraff 4(1) o'r Cynllun hwn; ac

  • y mae i “dyfais olrhain drwy loeren” (“satellite-tracking device”) yr ystyr a roddir i “satellite-tracking device” yn Erthygl 2(9) o'r Rheoliad Gweithredu.

Gwahoddiad i geisio am grant4

1

Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant ar gyfer dyfais olrhain drwy loeren.

2

Rhaid i wahoddiad gynnwys —

a

manylion o'r ddyfais olrhain drwy loeren a chyflenwyr cymeradwy;

b

manylion o'r amodau cymhwystra am grant;

c

gofynion o ran ffurf y cais a'r dull o'i wneud;

d

unrhyw ofynion o ran darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymrwymiadau i gefnogi'r cais;

e

y dyddiad cau ar gyfer gwneud y cais; ac

f

unrhyw wybodaeth arall a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn berthnasol i'r cais.

Cymhwystra ar gyfer gwneud cais5

1

Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant ar gyfer dyfais olrhain drwy loeren, os yw'r person hwnnw —

a

yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a

b

wedi prynu dyfais olrhain drwy loeren gan gyflenwr cymeradwy, neu wedi comisiynu cyflenwr gymeradwy i gyflenwi dyfais olrhain drwy loeren, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.

Ceisiadau6

1

Rhaid i gais am grant gael ei wneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 4(1).

2

Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i gais fod wedi cyrraedd Gweinidogion Cymru ar y dyddiad cau neu cyn hynny.

3

Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os bodlonir hwy—

a

bod amgylchiadau penodol y ceisydd yn peri y byddai'n afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a

b

bod y dyddiad y gwnaed y cais cyn gynted ag y gellid disgwyl yn rhesymol.

4

Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol.

Dyfarnu ar geisiadau7

1

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 6(4), rhaid i Weinidogion Cymru—

a

nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau a ystyriant yn briodol, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 4(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a

b

gwrthod unrhyw geisiadau eraill.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.

3

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen, o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

4

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen—

a

o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros gymeradwyo yn ddarostyngedig i amod(au); a

b

o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 18.

Talu grant8

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 7(1) ac wedi i Weinidogion Cymru gael eu bodloni —

a

bod y cyflenwr cymeradwy wedi cyflenwi dyfais olrhain drwy loeren i'r ceisydd a'r ddyfais wedi ei gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;

b

bod y ceisydd wedi defnyddio'r ddyfais olrhain drwy loeren yn llwyddiannus i ddarlledu data lleoliad ar ysbeidiau rheolaidd yn unol â gofynion y Rheoliad Rheoli; ac

c

y cydymffurfiwyd ag unrhyw amod ar dalu'r grant, neu unrhyw ran ohono.

2

Caiff Gweinidogion Cymru —

a

talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd; a

b

talu'r grant ar y cyfryw adeg, neu drwy'r cyfryw randaliadau fesul y cyfryw ysbeidiau neu ar y cyfryw adegau, a bennir gan Weinidogion Cymru.

Swm y grant9

O ran swm y grant—

a

ni chaiff fod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r ddyfais olrhain drwy loeren; a

b

caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.