Search Legislation

Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Grant ar gyfer dyfeisiau olrhain drwy loeren

Dehongli Rhan 2

3.  Yn y Rhan hon—

ystyr “cyflenwr cymeradwy” (“approved supplier”) yw'r darparwr a gosodwr dyfeisiadau olrhain drwy loeren a ddetholwyd gan Weinidogion Cymru ac a gyhoeddwyd yn y gwahoddiad am geisiadau am grant yn unol â pharagraff 4(1) o'r Cynllun hwn; ac

y mae i “dyfais olrhain drwy loeren” (“satellite-tracking device”) yr ystyr a roddir i “satellite-tracking device” yn Erthygl 2(9) o'r Rheoliad Gweithredu.

Gwahoddiad i geisio am grant

4.—(1Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant ar gyfer dyfais olrhain drwy loeren.

(2Rhaid i wahoddiad gynnwys —

(a)manylion o'r ddyfais olrhain drwy loeren a chyflenwyr cymeradwy;

(b)manylion o'r amodau cymhwystra am grant;

(c)gofynion o ran ffurf y cais a'r dull o'i wneud;

(d)unrhyw ofynion o ran darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymrwymiadau i gefnogi'r cais;

(e)y dyddiad cau ar gyfer gwneud y cais; ac

(f)unrhyw wybodaeth arall a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn berthnasol i'r cais.

Cymhwystra ar gyfer gwneud cais

5.—(1Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant ar gyfer dyfais olrhain drwy loeren, os yw'r person hwnnw —

(a)yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a

(b)wedi prynu dyfais olrhain drwy loeren gan gyflenwr cymeradwy, neu wedi comisiynu cyflenwr gymeradwy i gyflenwi dyfais olrhain drwy loeren, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.

Ceisiadau

6.—(1Rhaid i gais am grant gael ei wneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 4(1).

(2Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i gais fod wedi cyrraedd Gweinidogion Cymru ar y dyddiad cau neu cyn hynny.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os bodlonir hwy—

(a)bod amgylchiadau penodol y ceisydd yn peri y byddai'n afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a

(b)bod y dyddiad y gwnaed y cais cyn gynted ag y gellid disgwyl yn rhesymol.

(4Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol.

Dyfarnu ar geisiadau

7.—(1Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 6(4), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau a ystyriant yn briodol, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 4(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a

(b)gwrthod unrhyw geisiadau eraill.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen, o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen—

(a)o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros gymeradwyo yn ddarostyngedig i amod(au); a

(b)o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 18.

Talu grant

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 7(1) ac wedi i Weinidogion Cymru gael eu bodloni —

(a)bod y cyflenwr cymeradwy wedi cyflenwi dyfais olrhain drwy loeren i'r ceisydd a'r ddyfais wedi ei gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;

(b)bod y ceisydd wedi defnyddio'r ddyfais olrhain drwy loeren yn llwyddiannus i ddarlledu data lleoliad ar ysbeidiau rheolaidd yn unol â gofynion y Rheoliad Rheoli; ac

(c)y cydymffurfiwyd ag unrhyw amod ar dalu'r grant, neu unrhyw ran ohono.

(2Caiff Gweinidogion Cymru —

(a)talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd; a

(b)talu'r grant ar y cyfryw adeg, neu drwy'r cyfryw randaliadau fesul y cyfryw ysbeidiau neu ar y cyfryw adegau, a bennir gan Weinidogion Cymru.

Swm y grant

9.  O ran swm y grant—

(a)ni chaiff fod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r ddyfais olrhain drwy loeren; a

(b)caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources